Dewis sêr Les Miserables

  • Cyhoeddwyd
Cast cyfan
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na 130 o bobl ifanc yn rhan o'r cast

Wedi i 130 o bobl ifanc ledled Cymru gael eu dewis i fod yn rhan o gynhyrchiad o'r sioe gerdd, Les Miserables, mae criw wedi eu dewis i chwarae'r prif rannau.

Fe fydd y cynhyrchiad - sy'n cael ei lwyfannu yn Gymraeg fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn 10 oed - i'w weld yn Theatr Donald Gordon, rhwng Hydref 29 a 31 eleni.

Gwnaeth 250 o bobl ifanc ar draws Cymru gais i fod yn rhan o'r sioe gerdd.

O'r 130 gafodd eu dewis, mae 'na 10 nawr yn prysur ddechrau dysgu nodau a geiriau ar gyfer y prif rannau.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd, Sioned, Gareth, Ashley, Dewi, Osian (rhes gefn), Jodi, Lois, Erin, Gwen (rhes flaen)

Jean Valjean - Osian Wyn Bowen

Mae Osian yn 18 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol y Strade:

"Mi oeddwn i yng nghanol gwers cerdd pan ddaeth y camerâu i mewn i roi gwybod i mod i wedi cael y darn - doeddwn i ddim yn disgwyl ei gael o gwbl!

"Mae'r cynhyrchiad ei hun yn mynd i fod yn fythgofiadwy ac yn wefreiddiol ond y peth ydw i yn edrych ymlaen fwyaf yw cael dod i'r ymarferion a chael dysgu cymaint - a'r cyfan yn Gymraeg. Mi fydd hi hefyd yn braf cael cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau."

Javert - Gareth Rhys Thomas

Mae Gareth yn 19 oed ac yn astudio Drama a Theatr ym Mhrifysgol De Cymru:

"Mi ges i dipyn o sioc pan dda'th yr alwad i ddweud mod i wedi cael rhan Jarvet. Yn y gorffennol dw i wedi chwarae cymeriadau mwy 'neis', fel cymeriad Osian yn sioe gerdd Nia Ben Aur - felly mae'n braf cael chwarae y baddie am newid!

"Mi fydd yn fy ymestyn i fel actor a pherfformiwr i wneud rhywbeth fel hyn, ac yn brofiad gwych cael cydweithio gyda tîm cyfarwyddo mor dalentog."

Fantine - Gwen Edwards

Mae Gwen yn ddisgybl yn Ysgol Bodedern ac yn 17 oed:

"Dwi wrth fy modd yn canu ac mi fydd yn brofiad hollol anhygoel cael bod yn rhan o'r cynhyrchiad yma. Mi fydd hi hefyd yn braf cael dod i adnabod pobl ifanc o bob rhan o Gymru sydd yn joio gneud yr un petha' â fi, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i'n cael gwneud beth ydw i yn fwynhau fwyaf, a hynny o flaen cynulleidfa enfawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru!"

Thénardier - Dewi Wykes

Mae Dewi'n 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd:

"Mi ges i gymaint o sioc pan ddaeth Cefin Roberts i mewn i'r wers celfyddydau perfformio yn yr ysgol i roi gwybod i mi mod i wedi cael rhan Thenadier - doeddwn i methu credu'r peth! O'n i ddim yn disgwyl o gwbl. Rhywsut dw i o hyd yn cael rhannau y 'dirty urchins' - mae 'na bach o thema yn datblygu!

"Y peth ydw i yn edrych ymlaen ato fwyaf ydy perfformio ar y llwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm. Pob sioe arall dwi wedi ei wneud mae wedi bod efo cast proffesiynol ond yn y sioe yma mae pawb yn ifanc - a mae'r ffaith mod i wedi cael prif ran yn hwnna yn anhygoel."

Madame Thénardier - Erin Gwyn Rossington

Mae Erin yn 18 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Conwy:

"Ges i gymaint o sioc pan ges i'r alwad yn cynnig darn 'Madame Thenadier' yn Les Mis i mi! Mi oeddwn i mor hapus ac excited! Dwi'n licio'r cymeriad dwi wedi gael - mae hi yn gymeriad gwahanol, ac yn reit ddoniol - mae hi yn eithaf comic ond yn gallu bod yn hen g'nawes hefyd!

"Mae hwn yn gyfle gwych, ac mi fydd yn grêt cael gweithio efo'r criw cyfarwyddo sydd mor dalentog a dod i nabod pobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru."

Eponine - Lois Glain Postle a Jodi Bird

Mae dwy o ferched yn rhannu rhan Eponine, wedi i'r cyfarwyddwyr fynnu nad oedd modd dewis rhwng y ddwy. Bydd y naill yn perfformio nos Iau a phnawn Sadwrn, a'r llall nos Wener a nos Sadwrn.

Mae Lois yn 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bodedern:

"Mi ges i gymaint o sioc pan ddaeth Cefin Roberts i mewn i'r wers ddrama yn yr ysgol i roi gwybod i mi mod i wedi cael un o'r prif rannau - doeddwn i methu credu'r peth a nes i ddechrau crio o'n i mor hapus!

"Mae gwneud y cynhyrchiad yma yn mynd i roi lot mwy o hyder i mi a mae cael perfformio ar lwyfan mor fawr fel breuddwyd. Dwi wedi gweld sawl sioe gerdd yn Llundain ond mi fydd yn anhygoel cael bod yn rhan o sioe fel hon."

Mae Jodi Bird yn 16 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg:

"Mi oeddwn i mewn gwers gerdd pan gerddodd athrawes i mewn gyda llythyr, a'i roi i mi i'w ddarllen - ac ynddo mi oedd yn dweud mod i wedi cael rhan Eponine. Doeddwn i methu credu'r peth a nes i ddechrau crio gyda hapusrwydd. Mae hwn yn ddarn dwi wir moyn chwarae yn y West End yn y dyfodol ac mae cael y cyfle i'w wneud yn Gymraeg yng Nghanolfan y Mileniwm yn anhygoel.

"Mi fydd yn brofiad anhygoel cael perfformio ar lwyfan Donald Gordon, ac mae Cefin Roberts y Cyfarwyddwr mor wych. Mae'r geiriau hefyd yn hyfryd yn Gymraeg a dw i jysd yn edrych ymlaen gymaint!"

Cosette - Sioned Llewelyn

Mae Sioned yn astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd:

"Ges i sioc fach neis pan ddath yr alwad ffon i ddweud mod i wedi cael rhan Cosette. Mi oedd cael bod yn rhan o gynhyrchiad Cymraeg o Les Mis yn apelio yn fawr i mi, a chael perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

"Dwi'n dwlu ar sioeau cerdd a Les Mis yw un o fy ffefrynnau. Mae pawb mor wahanol yn y cast - gydag ystod oedran o 14 i 19 oed, ac yn dod o bob cornel o Gymru - sydd yn beth braf. Dwi'n edrych ymlaen i chwarae rhan Cosette, mae ei bywyd hi yn eithaf hamddenol o'i gymharu gyda'r cymeriadau eraill, sydd â'r rhyfel yn eu rheoli."

Enjolras - Ashley Rogers

Mae Ashley yn 18 oed ac yn astudio Cyfrifeg ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mi ges i dipyn o sioc pan ges i'r alwad i ddweud mod i wedi cael un o'r prif rannau yn y sioe. Dwi wedi chwarae y darn yma o'r blaen yn Theatr Taliesin gydag Ysgol Theatr 'Class Act'. Ond nes i neud y darn o'r blaen yn Saesneg felly fydd hi yn ddiddorol iawn cael ei wneud yn Gymraeg.

"Dwi'n credu y bydd llawer mwy 'poetic' yn Gymraeg, a mi fydd hyna yn neis. Mae yna gerddoriaeth anhygoel yn y sioe ac mi fydd yn grêt cael cwrdd gyda phobl wahanol. Dwi'n gyfarwydd gyda'r gerddoriaeth a'r harmoni yn barod sydd yn ei gwneud yn dipyn haws i ddysgu y darnau! Dwi'n edrych ymlaen yn fawr."

Marius - Dafydd Wyn Jones

Mae Dafydd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd ac yn 16 oed:

"Mi oedd yna gamerâu yn yr ysgol yn ffilmio ein ymateb pan oeddem yn cael gwybod ein bod wedi cael un o'r prif rannau, a mi oeddwn i wedi cael cymaint o sioc nes i ddim gallu deud dim byd o flaen y camera!

"Dwi'n edrych ymlaen i wneud ffrindiau newydd efo pobl ifanc sydd yn licio yr un pethau a fi - sef actio a pherfformio. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at y profiad o fod ar un o lwyfannau mwyaf Cymru o flaen cynulleidfa fawr lawr yng Nghaerdydd."

'Gwaith Caled'

Mae'r sioe mewn partneriaeth gydag Ysgol Glanaethwy a gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cefin Roberts yw Cyfarwyddwr Artistig y sioe gyda John Quirk yn Gyfarwyddwr Cerdd a Carys Edwards a Rhian Roberts yn Is-Gyfarwyddwyr.

Dywedodd Cefin, "Roedd yn waith caled dewis 130 o'r 250 wnaeth gais i fod yn rhan o'r sioe. Roedd y safon yn arbennig ac roedd yn biti bod rhaid i ni wrthod cymaint ar gyfer y sioe derfynol.

"Yna pan yn dewis y prif gymeriadau, cafwyd perfformiadau cofiadwy gan nifer o unigolion dawnus a thalentog ar draws Cymru, ond ar ôl pwyso a mesur a derbyn sêl bendith gan dîm Cameron Mackintosh ei hun, rydym yn falch dros ben o'n dewis."