Cynllun newydd i bobl oedd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi dweud eu bod yn lansio gwasanaeth newydd yng Nghymru i helpu pobl oedd ar goll wedi iddyn nhw ddychwelyd yn ôl at eu teuluoedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y nifer o bobl sy'n diflannu yng Nghymru yn cynyddu, gyda mwy na 14,500 yn mynd ar goll yn 2012-13.
Fe fydd elusen Missing People yn lansio cynllun sydd wedi ei gefnogi gan Gronfa Loteri Fawr Cymru ym mis Medi.
Bydd y gwasanaeth gofal pellach yn cynnig cefnogaeth a chyngor tra mae pobl oedd ar goll yn ailgysylltu gyda'u teuluoedd.
'Problemau newydd'
Dywedodd cydlynydd gofal pellach yr elusen, Shane Hemsley: "Rydych chi'n meddwl pan fo pobl yn dod 'nol bod popeth yn hapus ond nid dyma'r achos pob tro.
"Mae'r problemau oedd yn gysylltiedig â mynd ar goll yn y lle cynta' i gyd yn dod i'r wyneb."
Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi sylwi pan fo person yn dod 'nol bod problemau newydd yn gallu codi o hynny.
"Mewn rhai amgylchiadau, mae hi fel cael dieithryn yn y tŷ."
Mae'r elusen yn helpu hyrwyddo manylion y 300,000 o bobl sy'n diflannu yn y DU bob blwyddyn ac yn cefnogi eu teuluoedd.