Llywodraethwyr yn erbyn dynodi ysgol newydd yn eglwysig
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethwyr Ysgol y Berwyn yn Y Bala wedi gwrthwynebu awgrym gan swyddogion Cyngor Gwynedd i ddynodi ysgol arfaethedig newydd i blant 3-19 oed yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru.
Byddai'r cynllun ysgolion newydd yn gweld dwy ysgol gynradd - Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - ac un ysgol uwchradd - Ysgol y Berwyn - yn cau i greu un campws ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.
Mae Ysgol Beuno Sant wedi ei dynodi fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru, tra bo'r ddwy ysgol arall yn cael eu dynodi yn ysgolion cymunedol.
Dan y cynlluniau arfaethedig, byddai'r campws newydd yn cael ei ddynodi'n gyfreithiol fel ysgol eglwysig, fyddai'n golygu mai'r eglwys fyddai'n berchen ar adeiladau'r ysgol tra mai'r cyngor fyddai'n berchen ar y tir.
Cyngor Gwynedd fyddai'n gyfrifol am ariannu'r ysgol, recriwtio staff a pholisi mynediad, er y byddai gan yr eglwys gynrychiolwyr ar fwrdd llywodraethu'r ysgol, bydden nhw mewn lleiafrif.
'Dim cyswllt crefyddol'
Dywedodd cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Berwyn, Gwion Lynch, bod y bwrdd llywodraethu presennol yn unfrydol yn erbyn dynodi'r ysgol yn un eglwysig ac mai eu dymuniad yw i'w gweld yn cael ei dynodi yn ysgol gymunedol, fyddai'n cael ei rhedeg gan Gyngor Gwynedd yn unig.
"Be ydyn ni fel llywodraethwyr yn ei ddymuno - ac rydyn ni wedi cyfarfod i drafod hyn - ydi ysgol gwbl gymunedol na fyddai â chyswllt gydag unrhyw gorff crefyddol o gwbl," meddai.
"Ond ar ôl dweud hynny, 'da ni yn ymwybodol y bydd rhaid i'r ysgol newydd adlewyrchu'r cefndir cymdeithasol yn yr ardal, ac mae'r cefndir crefyddol Cristnogol yn bwysig i rannau o'r ardal yn bendant."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod y broses ymgynghori ar agor tan 28 Ebrill. Yn ôl y cyngor, mae hyn yn rhoi cyfle i bobl i leisio eu pryderon, a bydden nhw'n ystyried yr ymatebion yn ofalus cyn dewis i fynd ymlaen gyda'r cynllun.
'Yr un cwricwlwm'
Dywedodd y Canon Robert Townsend, sy'n llefarydd ar faterion addysg i'r Eglwys yng Nghymru, ei fod yn siomedig bod y mater wedi cael ei wneud yn gyhoeddus tra bo'r broses ymgynghori yn dal ar agor, ond nid yw wedi dod fel syndod iddo fod rhai yn erbyn y cynllun.
"Er nad ydyn nhw'n cael eu galw yn ysgolion cymunedol, mae ysgolion yr Eglwys yng Nghymru oll wedi eu seilio ar eu cymunedau lleol," meddai.
"Mae gan ysgol eglwysig yr un cwricwlwm yn union ag ysgol gymunedol, a does gan yr eglwys ddim mewnbwn i gwricwlwm ysgolion eglwysig.
"Fel ysgol eglwysig, byddai adeiladau'r ysgol yn dod yn eiddo i'r eglwys, ond mae amddiffyniad cyfreithiol i sicrhau nad yw'r eglwys yn gallu gwneud unrhyw fudd ariannol ohonyn nhw.
"Os yw pobl eisiau ysgol sydd yno i'r holl gymuned - os oes ganddyn nhw ffydd neu ddim, ond sydd gan ethos sydd wedi ei seilio ar werthoedd Cristnogol - gall yr opsiwn o ysgol eglwysig sicrhau hyn."