Grantiau cofebau: 'Achubwch y cyfle'

  • Cyhoeddwyd
Cofeb
Disgrifiad o’r llun,

Ken Skates a Maer Llanilltud Fawr, Michael Mason

Mae dirprwy weinidog wedi annog cymunedau i ddefnyddio grantiau i ddiogelu cofebau rhyfel.

Cynnig y mae cynllun Grantiau ar gyfer Cofebau Rhyfel hyd at 70% o gostau er mwyn diogelu pob math o gofeb.

Yr uchafswm yw £10,000.

Mae hyn yn rhan o weithgareddau cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf ac mae manylion sut i gael y grantiau ar wefan Cadw, dolen allanol sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

4,000

Yng Nghymru mae mwy na 4,000 o gofebau i'r rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant Ken Skates: "Mae'r cofebau yn symbol o'n hangen ni i gofio.

"Yn ein cymunedau ni mae miloedd ohonyn nhw a phob un yn adrodd stori am y bywydau gafodd eu colli a'r effeithiau ysgytwol ar gymunedau ...

"Mae'n bwysig fod y cofebau'n cael eu diogelu fel bod cenedlaethau i ddod yn gwybod am yr aberth a fu."