Oes 'na ddyfodol i'r papurau bro?
- Cyhoeddwyd
Mae darllen papur bro yn un o uchafbwyntiau'r mis i nifer fawr o bobl mewn sawl cymuned ar draws Cymru. Ond erbyn hyn mae newyddion yn lledaenu yn gyflym wrth i dechnoleg ddatblygu.
Beth felly yw dyfodol y cyhoeddiadau cymunedol Cymraeg yn yr oes ddigidol? Emma Meese o Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd sydd yn pwyso a mesur y camau nesaf ar ran Cymru Fyw:
Mae'r term hyperlleol - sy'n golygu newyddion ar raddfa leol iawn - yn gymharol newydd i gymunedau ar draws y byd.
Wrth i bapurau newydd traddodiadol gau lawr mae yna wledd o safleoedd hyperlleol yn dechrau yn eu lle.
Ar y cyfrif olaf, roedd gan Gymru 45 safle hyperlleol wedi eu gwasgaru ar draws y wlad.
Mae colled papur newydd lleol yn cael effaith syfrdanol ar gymunedau ac ar ddemocratiaeth leol.
Ond ry' ni ar y blaen yng Nghymru diolch i'r traddodiad o gyhoeddi papurau bro.
Mae 52 papur bro yn cael eu creu a'u cyhoeddi gan wirfoddolwyr ar draws Cymru yn fisol, sy'n rhannu newyddion cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd y tirlun yn hollol wahanol pan gafodd y cyntaf o'r rhain, 'Y Dinesydd', ei gyhoeddi yng Nghaerdydd 40 mlynedd yn ôl.
Yn ystod y cyfnod yna - heb gyfrifiaduron a ffonau symudol - roedd pawb yn ddibynnol ar newyddiadurwyr i ddarganfod a chyhoeddi newyddion y dydd. Erbyn hyn, mae'r gynulleidfa yn rhannu eu newyddion eu hun.
Gyda'r cynnydd mewn gwerthiant dyfeisiadau symudol, fel gliniaduron, ffonau symudol a thabledi, yn ogystal â'r cynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, mae pawb â'r gallu i greu eu newyddion eu hun, 24/7.
Y term Saesneg am hwn yw User Generated Content - neu UGC.
O ganlyniad, y gamp i newyddiadurwyr heddiw yw rhidyllu'r cynnwys yma, ei wireddu a'i ail-becynnu i mewn i stori gyflawn newydd. Erbyn heddiw felly mae'r gynulleidfa yn creu, rhannu, darllen a derbyn eu newyddion yn ddigidol.
Felly ma' 'na bryder dros ddyfodol papurau bro os nad ydyn nhw hefyd yn mynd yn ddigidol a pherygl o golli'r rhwydwaith cyfoethog unigryw sydd gennym yng Nghymru.
Ond yma yn y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd, dolen allanol rydym yn ceisio cefnogi a rhoi cymorth i bapurau bro i droi'n ddarpariaethau digidol er mwyn denu cynulleidfa eang.
Mae 'Pobl Caerdydd' - sef y Dinesydd Digidol - yn enghraifft o hyn ac yn mynd o nerth i nerth wrth ddefnyddio a rhannu UGC trigolion Caerdydd ers lansio dwy flynedd yn ôl.
Erbyn hyn mae 'Pobl Aberystwyth' hefyd yn bodoli a 'Pobl Dinefwr' ar y gweill.
Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi teithio i bob cwr o Gymru, gyda Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, yn rhedeg Digidol ar Daith - yn dysgu sgiliau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd yn bleser plannu hedyn syniad a gweld hwn yn datblygu a thyfu mewn i bresenoldeb digidol i sawl bapur bro a chwmni lleol.
Ma' siawns go iawn eich bod yn darllen y stori yma ar ddyfais symudol, a'ch bod wedi rhannu cynnwys eich hunain ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar.
Y cam bach nesaf gallwch chi gyd ei wneud i helpu i gadw'r traddodiad yn fyw yw rhannu'ch newyddion ar-lein yn Gymraeg.
Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bapurau bro fe fydd yn rhaid iddyn nhw adlewyrchu beth sy'n digwydd yn y maes digidol er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i'r genhedlaeth Gymraeg nesaf.