Plaid Cymru yn 'dal ei thir'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod wedi 'dal ei thir' yn yr etholiad cyffredinol.
Cadw'r tair o seddi wnaeth y blaid yn Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Dwyfor Meirionnydd.
Ond mi oedd hi'n agos yn Ynys Môn gydag Albert Owen yn cadw ei sedd o drwch blewyn, gyda mwyafrif o 229 o bleidleisiau.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Simon Thomas bod ffawd Plaid Cymru wedi bod yn well na rhai o'r pleidiau eraill.
"O edrych beth sydd wedi digwydd i'r pleidiau eraill, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur hefyd yn Lloegr, 'da ni wedi dal ein tir yma yng Nghymru ac wedi gwneud yn eithaf da mewn sawl sedd yn y cymoedd."
Yn ôl Simon Thomas mae'r canlyniadau wedi dangos bod Llafur "dan fygythiad mewn sawl ran o Gymru" gan bleidiau gwahanol gan gynnwys Plaid Cymru.
Gwaith y blaid meddai ar gyfer yr etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf fydd dangos i bobl eu bod nhw yn medru amddiffyn buddiannau pobl Cymru yn erbyn y Ceidwadwyr yn Llundain.
'Sylfeini cadarn'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood bod canlyniad yr etholiad "ddim mor ddrwg ag y gallai fod" i'w phlaid, er gwaethaf y ffaith bod eu gobeithion o ennill mwy o seddi yng Nghymru wedi cael eu chwalu.
Dywedodd ei bod yn falch fod y blaid wedi cynyddu eu pleidleisiau yn y Rhondda a chymoedd y gorllewin, ond bod "etholiadau San Steffan bob amser wedi bod yn anodd i Blaid Cymru."
Ychwanegodd, "Yn amlwg fe ddaethon ni'n agos i gipio Ynys Môn ac i gael ein pleidlais orau erioed ac ry'n ni wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer etholiad y Cynulliad. Bydd ein tri Aelod Seneddol yn gweithio'n galed nawr i amddiffyn ein cymunedau".