Ateb y Galw: Jason Mohammad

  • Cyhoeddwyd
Mohammad

Yr wythnos yma y cyflwynydd Jason Mohammad sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan gyflwynydd CBeebies, Alex Winters.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' yw mynd i'r ysgol feithrin yng Nghaerdydd - paentio, tynnu llun, chwarae superheroes a chyfarfod un o fy ffrindiau, Steven - a dwi dal yn ffrindiau da gyda fe heddiw. Iron Man yw e a fi yw Captain America.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Rhywun enwog 'da chi'n feddwl ie? A wel, pa fachgen yn yr 1980au oedd ddim yn ffansio Kylie?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Hitio fy mhen ar gar tra o'n i'n ffilmio'r newyddion ar gyfer y teledu - fe ymddangosodd y clip ar 'Wogan's Auntie's Bloomers'.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Nes i grio ar ddiwedd ffilm ddiweddaraf Bill Murray, 'St Vincent'. Mae'n ffilm hyfryd - doniol ond eto'n anhygoel o drist.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi fy ewinedd - drwg iawn.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rio de Janeiro. Prysur, prydferth ac yn wallgo' am bêl-droed.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Rownd derfynol Cwpan y Byd, 2014 yn Rio. Yr Almaen 1-0 Yr Ariannin.

Jason yn dawnsio tra'n gohebu yn ystod Cwpan y Byd yn Brasil
Disgrifiad o’r llun,

Jason yn dawnsio tra'n gohebu yn ystod Cwpan y Byd yn Brasil

Oes gen ti datŵ?

Na, ddim yn ffan o gwbl.

Beth yw dy hoff lyfr?

Rwy'n trysori fy nghopi o 'Death of a Salesman' gan Miller. Mae'n eitha' hen, ac wedi'i chwalu braidd - ond mae'n llyfr hynod o bwysig i'w ddarllen.

Ga' i ddewis dau? Fel y gwyddoch rwy'n caru radio ac mae 'The Nation's Favourite', hanes Radio 1, gan Simon Garfield ymysg fy ffefrynnau hefyd.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Pâr da o esgidiau wedi'u gwneud yn Lloegr gyda llaw. Rwyf wrth fy modd yn prynu esgidiau.

Doedd dim angen pâr da o 'sgidiau ar Jason i fynd i'r afael â 'capoeira' ar ei deithiau gyda'r BBC yn Brasil
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim angen pâr da o 'sgidiau ar Jason i fynd i'r afael â 'capoeira' ar ei deithiau gyda'r BBC yn Brasil

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Force Majeure'. Tour de force mewn dynoliaeth, teulu a sgïo.

Dy hoff albwm?

'Thriller'. Does 'na ddim angen dweud mwy.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Cadw hi'n syml. Casgliad o fwydydd Indiaidd i ddechrau, dhansakcig oen, keema naan a choffi du.

'Final Score': Gwên fawr, rhaid bod Caerdydd wedi ennill am chenj!
Disgrifiad o’r llun,

'Final Score': Gwên fawr, rhaid bod Caerdydd wedi ennill am chenj!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecstiwch fi.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Byddwn i'n mwynhau rhedeg y wlad am y diwrnod. Faint ohonon ni sydd wedi dweud "... os byswn i'n cael fy ffordd..."

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Martyn Williams.