Ateb y Galw: Alex Winters
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma cyflwynydd CBeebies Alex Winters sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw wedi iddo gael ei enwebu gan y cyflwynydd a'r canwr, Wynne Evans.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n meddwl yr adeg pan oeddwn ar goll ar y traeth yn Ninbych y Pysgod. Mae fy rhieni yn taeru nad oedden nhw yn bell - rhyw chydig fetrau o ble ro'n i Doedd gen i ddim sbectols yr adeg hynny fell efallai mai fy llygaid i oedd ar fai!!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Mae hwn yn restr hir! Madonna (Dwi'n gwybod!!!), Kelly Le Brock, a Nicola Dunn, y ferch a oedd yn byw drws nesa.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gall hyn fod yn un o lawer o adegau. Y peth gwaetha dwi'n meddwl oedd pan nes i ofyn i ffrind fy chwaer pryd oedd ei babi am gyrraedd, a hithau'n ateb "dwi ddim yn disgwyl, Alex, dwi'n dew".
Ro'n i wedi anghofio enw y ffrind a oedd yn disgwyl!!!! D'w i 'rioed 'di gwneud y camgymeriad yna eto!!!!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n berson emosiynol felly mae fy llygaid yn dyfrio yn aml. Oes gwahaniaeth rhwng ychydig o ddagrau a chrio go iawn?
Ro'n i'n emosiynol a mi nes i grio yr wythnos diwetha wrth wylio Paula Radcliffe yn cael ei chyfweld cyn rhedeg Marathon Llundain am y tro olaf.
Am ddynes anhygoel ac ysbrydoledig. Yn haeddu dagrau o lawenydd dwi'n meddwl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Nai ateb hwn nes mlaen. Dwi'n ofnadwy am ohirio cyn gwneud rhywbeth.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Caerdydd wrth gwrs. Ac yna Llundain.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gormod i'w henwi. Ond bydde fe'n cynnwys y Manic Street Preachers, digwyddiad chwaraeon, ffrindiau a siocled. Er, dim ar yr un pryd!!
Oes gen ti datŵ?
Na. Dwi ddim eisiau un chwaith i fod onest. 'Dw i 'n cael traferth penderfynu ar bethau beth bynnag!
Beth yw dy hoff lyfr?
1984 gan George Orwell
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Crys T du/crys a par o jîns- fy uniform.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Newydd wylio y ffilm Harry Potter cynta gyda fy merch 8 oed. Dwi wedi ei weld o sawl gwaith ond hon oedd y tro cynta i hi ei gweld. Roedd hi wrth ei bod. Mae hi nawr am weld nhw i gyd wedi iddi ddarllen y llyfrau. Dewis da.
Dy hoff albwm?
Mae dau. 'The Holy Bible' gan Manic Street Preachers a 'The Stone Roses' gan y band o'r un enw.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?
Os nad oes themau penodol; puri corgimwch i ddechrau, stêc gyda chips a wŷ wedi'w ffrio, ac yna unrhywbeth siocled i bwdin.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Dwi'n hoffi siarad ar y ffon, neu gwrando o leia. Rwy'n hoffi dal lan 'da theulu a ffrindiau.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Hwn yn un anodd. Nicky Wire (chwaraewr bâs y Manics) pan maen nhw yn teithio. Yna byswn i'n gallu chwarae yr holl bass lines ddysgais i wrth freuddwydio am fywyd rock n roll.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Jason Mohammad