Pryder am gyrraedd targedau addysg Gymraeg y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegydd amlwg wedi dweud na fydd targedau addysg cyfrwng Cymraeg y llywodraeth yn cael eu cyrraedd.
Mewn erthygl i adran gylchgrawn BBC Cymru Fyw dywedodd Hywel M Jones, cyn- ystadegydd Comisiynydd y Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru: "Fydd targedau Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ddim yn cael eu cyrraedd a dydy addysg Gymraeg ddim yn tyfu'n gyflym."
Yn 2007 fe ymrwymodd y llywodraeth i greu "Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg" genedlaethol i ddatblygu darpariaeth o addysg feithrin hyd at addysg bellach ac uwch yn y Gymraeg.
Pan gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2010 roedd i fod yn "garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg cyfrwng Cymraeg."
Tair lefel
Roedd targedau penodol i geisio monitro cynnydd ac adolygu effaith y strategaeth ar dair lefel y system addysg; sef darparwyr, awdurdodau lleol a chenedlaethol.
Ond yn ôl Mr Jones, fydd hi ddim yn bosib cyrraedd y targed o gael 30% yn dysgu Cymraeg iaith gyntaf yn yr ysgol gynradd (diwedd y Cyfnod Sylfaen yn saith oed) a 23% o blant uwchradd (diwedd Cyfnod Allweddol 3).
Dywedodd: "22.2% o blant gafodd eu hasesu yn y Gymraeg (iaith gyntaf) yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yn 2014 a 21.9% oedd y ganran yn 2011. Does dim ffynhonnell arall o siaradwyr rhugl.
"Ni ddylen ni dwyllo ein hunain am allu'r 562,000 i siarad Cymraeg. Amcangyfrifir fod 311,000 o bobl, tua 11% o'r boblogaeth, yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn 2012-13.
"Faint o'r plant hyn fydd yn gadael Cymru, a faint o bobl ddaw o'r tu allan, fydd yn penderfynu a fydd canran y siaradwyr rhugl ymhlith y boblogaeth gyfan yn codi o'r 11% presennol."
Fe ofynnodd Cymru Fyw i Lywodraeth Cymru am ymateb ond doeddwn nhw ddim am roi sylw.
Mewn ymateb, dywedodd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG):
"Mae RhAG yn gresynu ond ddim yn synnu na fydd yn bosib cyrraedd y targedau sydd wedi'i gosod yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru.
"Roedd y Gweinidog Addysg ei hun eisoes wedi cydnabod nôl yn 2013 na fyddai modd cyrraedd y targedau a osodwyd ar gyfer 2015.
"Ar sawl achlysur mae RhAG wedi mynegi pryder bod nifer helaeth o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdodau Lleol yn syrthio'n brin iawn o darged y Llywodraeth ar gyfer twf addysg Gymraeg ac wedi galw'n gyson am gryfhau'r drefn gynllunio er mwyn sicrhau bod y targedau'n cael eu cyrraedd.
"Mae RhAG yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn i hyn ac yn pwyso ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd ar fyrder. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn troi consensws ac ewyllys wleidyddol genedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2015