Pa ddyfodol i'r Gymraeg yn 2021?
- Cyhoeddwyd
Roedd y gostyngiad yn y ganran sy'n siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 yn ysgytwad i nifer fawr o bobl. Mae'r ystadegydd Hywel M Jones, awdur gwefan StatIaith, dolen allanol, wedi bod yn asesu'r ffigyrau diweddara' am y Gymraeg gan ystyried beth sydd i ddisgwyl yn y Cyfrifiad nesaf yn 2021.
Mae'n rhannu ei gasgliadau gyda Cymru Fyw:
Crebachu
Roedd y gostyngiad yng nghanran y siaradwyr o 20.8% yn 2001 i 19% yn 2011 wedi synnu llawer.
Mewn gwirionedd, gan y cafwyd y canrannau uchaf ymhlith y plant yn 2001 a bod y boblogaeth oed ysgol wedi crebachu erbyn 2011, roedd lleihad bron yn anochel.
Nid oedd y gostyngiad yn nifer y siaradwyr yn sylweddol iawn: roedd 562,000 yn 2011, 21,000 yn is na chyfanswm 2001, a hynny'n ostyngiad o lai na 4%.
Cynnydd ym maint y boblogaeth gyfan, oherwydd mewnfudo yn bennaf, achosodd i'r cwymp yng nghanran y siaradwyr fod mor fawr.
Ni ddylem dwyllo ein hunain am allu'r 562,000 i siarad Cymraeg. Amcangyfrifir fod 311,000 o bobl, tua 11% o'r boblogaeth, yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn 2012-13.
Newidiadau demograffig
Yn barod mae dyfalu am ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Tri pheth, a siarad yn fras, sy'n gallu arwain at gynnydd yn nifer y siaradwyr:
Magu rhagor o blant i siarad Cymraeg gartref
Dysgu rhagor o blant i siarad Cymraeg
Neu gael rhagor o oedolion i ddysgu Cymraeg
Mae pa ganran fydd yn siarad Cymraeg yn dibynnu ar faint y boblogaeth. Mae hwnnw, yn ei dro, yn dibynnu ar newid demograffig: faint sy'n cael eu geni, faint sy'n marw, a faint sy'n symud i mewn ac allan o Gymru.
Y Gymraeg yn nwylo'r plant?
Addysg Gymraeg yw'r unig un o'r ffactorau hyn sy'n cael ei dargedu'n uniongyrchol. Fydd targedau Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ddim yn cael eu cyrraedd a dydy addysg Gymraeg ddim yn tyfu'n gyflym.
22.2% o blant gafodd eu hasesu yn y Gymraeg (iaith gyntaf) yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yn 2014. Digon tebyg - 21.9% - oedd y ganran yn 2011. Does dim ffynhonnell arall o siaradwyr rhugl.
Faint o'r plant hyn fydd yn gadael Cymru, a faint o bobl ddaw o'r tu allan, fydd yn penderfynu a fydd canran y siaradwyr rhugl ymhlith y boblogaeth gyfan yn codi o'r 11% presennol.
Yn ffigyrau'r Cyfrifiad mae plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith lawn cyn bwysiced â'r rhai rhugl. Roedd 42% o blant 11 oed yn gallu siarad Cymraeg - yn ôl Cyfrifiad 2011. Bydd mwy o blant yn 2021, o barhau'r tueddiadau presennol.
Os bydd yr un ganran ohonynt yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, mae'n bosibl y bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dweud fod mwy o siaradwyr yn 2021 nag oedd yn 2011.
Er hynny, gan fod maint y boblogaeth gyfan yn debygol o gynyddu - eto o achos mewnfudo'n bennaf - mae'n bosibl na fydd y ganran yn newid llawer. Fydd hi fawr o bwys. Siaradwyr rhugl sy'n defnyddio'r iaith.
Bu Hywel M Jones yn ystadegydd i Gomisiynydd y Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2015