Caniatâd cynllunio i Barc Gwyddoniaeth Menai yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Parc Gwyddoniaeth MenaiFfynhonnell y llun, j.potter

Mae Cyngor Ynys Môn wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol i gynllun ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai.

Gallai'r datblygiad greu hyd at 720 o swyddi ar y safle ger Gaerwen.

Cwmni dan adain Prifysgol Bangor sy'n gyfrifol am y cais ac maen nhw wedi dweud y byddai'n creu rhwng 150 a 720 o swyddi dros y 10 mlynedd nesaf.

Fel rhan o'r cynlluniau bydd wyth adeilad yn cael eu codi ar gyrion pentref Gaerwen.

Gobaith y datblygwyr yw denu cwmnïau technoleg uwch ynghyd â graddedigion o Brifysgol Bangor.

2017

Maen nhw'n dweud y byddai'r safle yn gallu agor erbyn 2017 ond y byddai'r cynllun yn cymryd 10 mlynedd i'w gwblhau.

Yn ôl adroddiad swyddogion cynllunio Ynys Môn byddai'r safle "yn help i ddatblygu'r economi heb achosi niwed i'r amgylchedd na chwaith y gymuned leol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones: "Mae'r caniatâd cynllunio amlinellol yn gam mawr ymlaen ... ac mae'n nodi cychwyn pennod newydd gyffrous yn adfywiad economaidd Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru."