Prifathro yn 'difaru peri tramgwydd'

  • Cyhoeddwyd
Toby Belfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae Toby Bellfield yn "difaru peri tramgwydd"

Mae pennaeth ysgol breifat yn y gogledd wedi dweud ei fod yn "difaru peri tramgwydd" ar ôl ysgrifennu llythyr at ei bapur newydd lleol.

Mewn llythyr i'r Denbighshire Free Press, dywedodd Toby Belfield bod gorfodi plant Cymru i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn golygu eu bod yn parhau i fod yn "wannach yn academaidd", na'u cyfoedion yn Lloegr.

Ychwanegodd bod disgyblion gyda Chymraeg fel iaith gyntaf yn llai tebygol o fynd i'r prifysgolion gorau ym Mhrydain.

Ond mae Pennaeth Ruthin School yn dweud ei fod yn glynnu at ran arall o'i ddadl, sef y "dylai rhieni gael yr hawl i ddewis a yw eu plant yn dysgu Cymraeg ai peidio."

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y sylwadau yn "anachronistaidd", ac mae Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn, wedi dweud bod "siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o fod â chymwysterau uwch na siaradwyr di-Gymraeg o Gymru, a hyd yn oed Saeson yn Lloegr".

Ffynhonnell y llun, DFP
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llythyr Toby Belfield ei gyhoeddi yn y Denbighshire Free Press

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Belfield ei fod wedi gwneud y sylwadau mewn ymateb i lythyr oedd yn dweud "y dylai holl ysgolion Cymru fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac y dylai holl athrawon Cymru ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg".

Roedd hefyd yn dweud ei fod yn "difaru peri tramgwydd" i bobl yn sgil cyhoeddi'r llythyr.

Fe ddywedodd hefyd nad yw'n beirniadu ysgolion eraill, ond yn hytrach yn beirniadu "unrhyw un sy'n dweud y dylid ei gwneud hi'n orfodol i bob athro allu'r Gymraeg, a phob gwers gael ei dysgu drwy'r Gymraeg."