Jamie Roberts i ymuno â Harlequins y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi Harlequins wedi cyhoeddi y bydd canolwr Cymru Jamie Roberts yn ymuno â'r clwb y tymor nesaf.
Bydd Roberts, 28 oed, yn ymuno o Racing Metro, wedi iddo dreulio dwy flynedd gyda'r tîm o Baris. Cyn hynny, bu'n chwarae i'r Gleision am chwe blynedd.
Mae canolwr o Gasnewydd wedi cynrychioli ei wlad ar 69 achlysur, gan ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar dri achlysur.
Dywedodd Roberts: "Rwy'n falch iawn o fod wedi arwyddo i Harlequins. Ar ôl chwarae yng Nghaerdydd a Pharis, mae symud i Lundain yn gyfle i mi ddatblygu fy ngyrfa mewn cynghrair wahanol.
"Yn edrych ar safon carfan a staff hyfforddi Harlequins, maen nhw yn dîm sy'n mynd i fod yn cystadlu ar y lefel ucha' pob blwyddyn, ac roedd hynny'n ffactor mawr yn fy mhenderfyniad i arwyddo."
Fe fydd Roberts yn ymuno ar ôl Cwpan y Byd yn yr hydref, ac fe fydd yn astudio am radd meistri mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt wrth chwarae yn Llundain.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Harlequins, Conor O'Shea: "Mae'r clwb yn falch iawn i arwyddo chwaraewr o safon Jamie.
"Mae'n awyddus iawn i lwyddo ar lefel clwb a chenedlaethol. Fel esiampl i oll ein chwaraewyr, mae'n rhywun y gallwn ni i gyd ddysgu ganddo."