Lluniau: Oes aur y chwareli
- Cyhoeddwyd
Mae hanes chwareli llechi'r Gogledd yn gyfarwydd iawn i lawer a nos Iau 21 Mai bydd noson arbennig yn cael ei chynnal i hybu llyfr newydd 'Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry '.
Bydd y noson yn cael ei chynnal yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn, cartre'r Arglwydd Penrhyn achosodd gymaint o chwerwder a dioddefaint i chwarelwyr Bethesda a'u teuluoedd yn ystod y Streic Fawr rhwng 1900-1903.
Mae'r gyfrol yn ffrwyth llafur Dr David Gwyn, archeolegydd diwydiannol o Benygroes. Beth sy'n gwneud y llyfr yn hynod yw ei fod nid yn unig yn cynnwys ymchwil fanwl am fywyd y chwareli a'u cymunedau ond yn cynnwys nifer o luniau trawiadol sy'n cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru., dolen allanol
Dyma i chi ychydig o flas

Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn

Chwarelwyr Dorothea, Dyffryn Nantlle

Pwyllgor chwarelwyr y Penrhyn: arweinydd yr undeb, W. J. Parry (chwith), yn wynebu'r Arglwydd Penrhyn (dde)

Melin llawr 5 yn chwarel Llechwedd

William John Parry yn arwain ymwelwyr enwog o'r mudiad llafur o amgylch chwarel gydweithredol Pant Dreiniog a'i chyfarpar newydd

Melin slabiau Ynys y Pandy gyda chwarel Gorsedda yn y cefndir

Barics y Dre' Newydd yn chwarel Dinorwig

Chwareli Ffestiniog

Chwareli Dyffryn Nantlle

Cafodd y llechi eu cludo i farchnadoedd ar hyd a lled y byd o Gei Caernarfon