Priodas dyn gafodd ei anfon o'r wlad 'gam yn nes'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Lanuwchllyn wedi dweud ei bod "gam yn nes" at gael bod gyda'i chariad o Seland Newydd gafodd ei yrru o'r wlad ddechrau'r mis.
Roedd Lliwen Gwyn Roberts, 27 oed, wedi dechrau trefnu ei phriodas i Gareth MacRae, 30 oed o Seland Newydd, ar 11 Gorffennaf, ond bu'n rhaid canslo'r briodas wedi i sawl cais am fisa gael eu gwrthod.
Daeth Mr MacRae i'r wlad fel ymwelydd cyffredin, ond ar ôl cyrraedd cafodd ei anfon o'r wlad gan yr awdurdodau.
Ar ei thudalen Facebook ddydd Iau, dywedodd Ms Roberts bod "Gareth wedi cael fisa i ddod i Iwerddon. Mae o chydig nes wan oleia".
'Dal i gredu'
Fe wnaeth Miss Roberts gyfarfod Mr MacRae yn ystod gwyliau yn aros gyda'i chyfnither yn Seland Newydd yn 2009, ac wedi treulio tri mis gyda'i gilydd yno, mi wnaeth Mr MacRae wneud cais am fisa gwaith i ddod i Brydain.
Wedi sawl blwyddyn yn byw ym Mhrydain a Seland Newydd, fe wnaeth y ddau ddyweddio ym mis Chwefror 2014, gan wneud cais am fisa 'marriage settlement' ym Mhrydain yn Hydref 2014.
Roedd y cwpl wedi dechrau cynllunio eu priodas, gan gynnwys talu dros £7,000 ar bethau fel y parti a'r ffrog.
Cafodd Mr MacRae ei adael i mewn i'r wlad yn wreiddiol, ar yr amod ei fod yn dychwelyd i nol ei basport o'r maes awyr rhai dyddiau wedyn.
Ond pan yno, cafodd wybod y byddai'n rhaid iddo adael Prydain gan bod y cais am fisa wedi methu.
Yn ysgrifennu ar ei thudalen Facebook, dywedodd: "Dal i gredu...
"Cam yn nes, Gareth wedi cael fisa i ddod i Iwerddon. Mae o chydig nes wan oleia.
"Gobaith nesa - gweld os geith o ddod i mewn am wyliau o Iwerddon er mwyn cael y 'blessing'.
"Diolch am y gefnogaeth, yn ddiolchgar tu hwnt!! Pethe yn gwella yn ara deg bach xxx"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015