Gofal iechyd meddwl y gogledd yn 'erchyll' medd elusen
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi disgrifio sefyllfa gofal mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd fel un "erchyll".
Mae ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, wedi bod yn destun adroddiad annibynnol hynod feirniadol yr wythnos hon.
Mae teuluoedd wedi disgrifio sut roedd cleifion yn cael eu trin fel anifeiliaid mewn sw.
Dywedodd Carol Anne Jones o'r Gymdeithas Alzheimer: "Mae'n anhygoel bod rhywbeth mor erchyll wedi digwydd yn yr oes yma."
Mae'r honiadau, sydd wedi eu profi yn yr adroddiad ysgrifenedig gan arbenigwr iechyd Donna Ockenden, yn dweud eu bod yn gyfystyr â "cham-drin sefydliadol".
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro am y driniaeth "anfaddeuol ac annerbyniol".
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn "cynnal ymchwiliad llawn i sut y gallai'r sefyllfa hon fod wedi digwydd ac i sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg yn digwydd yn y dyfodol".
Trafod yn y Cynulliad
Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad i gyfundrefn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dywedodd na ddylai staff oedd yn gyfrifol am y gamdriniaeth yn cael camu o'r neilltu heb fwy o erlyniad, a bod angen trafod y mater yn y Cynulliad ar frys.
Yn ôl cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Tina Donnelly, mae angen "lefel uchel o archwiliad i sicrhau bod y bobl sy'n cael eu rhoi mewn lle yn gweithredu'r newidiadau".
Mae wyth aelod o staff nyrsio wedi cael eu gwahardd o'u gwaith ar dâl llawn ac mae nifer "sylweddol" o staff wedi cael eu trosglwyddo i rolau eraill.
Mae eraill, gan gynnwys rheolwyr, wedi gadael eu swyddi.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad, ond ar ôl ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron, penderfynwyd na fyddai unrhyw gyhuddiadau yn cael eu dwyn.
Ychwanegodd Ms Jones, o'r Gymdeithas Alzheimer: "Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o'r digwyddiadau erchyll hyn, ac ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd eto."