Ross Moriarty a Tomas Francis yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ross MoriartyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ross Moriarty

Mae naw chwaraewr sydd heb eto ennill cap rhyngwladol wedi eu cynnwys yng ngharfan estynedig Cymru i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Prop Caerwysg Tomas Francis a blaenasgellwr Caerloyw Ross Moriarty yw dau ohonyn nhw, ac mae'r ddau yn gymwys hefyd i gynrychioli Lloegr.

Y lleill sy'n ddi-gap yw Kristian Dacey, Dominic Day, Rory Thornton, Gareth Anscombe, Jack Dixon, Tyler Morgan, ac Eli Walker.

Mae Moriarty, sy'n 21 mlwydd oed ac yn enedigol o St Helens, yn fab i gyn-flaenwr Cymru Paul Moriarty.

'Cyfuniad'

Mae anaf i'w ben-glin yn golygu na fydd Jonathan Davies ar gael i chwarae yng Nghwpan y Byd, felly mae Tyler Morgan wedi cael ei dynnu o'r garfan dan-20 ar gyfer Pencampwriaeth y Byd i ychwanegu at yr opsiynau ymysg yr olwyr.

Does dim lle yn y garfan i flaenwr y Gleision Josh Navidi er iddo serennu i'w ranbarth dros y misoedd diwethaf.

"Fel tîm hyfforddi, rydyn ni'n hapus iawn gyda'r cyfuniad o chwaraewyr profiadol yn ogystal â thalent ifanc sydd wedi gwneud argraff arnom ni," meddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

Mi fydd y garfan yn cael ei gwtogi i 31 enw ddiwedd mis Awst, ar ôl i'r chwaraewyr fod yn ymarfer yn y Swistir, Qatar, Gwlad Pwyl a gogledd Cymru.

Mae tair gêm baratoadol wedi eu trefnu yn erbyn Iwerddon (8 a 29 Awst) a'r Eidal (5 Medi) cyn i Gymru wynebu Wrwgwái yng ngêm agoriadol y gystadlueath ar 20 Medi yng Nghaerdydd.

Carfan ymarfer Cymru

Olwyr: Gareth Davies (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), James Hook (Caerloyw), Matthew Morgan (Bryste), Rhys Patchell (Gleision), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision), Jack Dixon (Dreigiau), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Racing Metro), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Leigh Halfpenny (Toulon), Tom James (Caerwysg), George North (Northampton Saints), Eli Walker (Gweilch), Liam Williams (Scarlets).

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Dominic Day (Caerfaddon), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Rory Thornton (Gweilch), Dan Baker (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, capt).