£1.5m i ganolfannau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Yr Hen LyfrgellFfynhonnell y llun, Mick Lobb/ Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ganolfan Gymraeg yng Nghaerdydd yn cael ei lleoli yn Yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes

Bydd chwech o Ganolfannau Cymraeg ac Ardaloedd Dysgu newydd yn cael eu creu i geisio hybu'r defnydd o'r iaith ledled Cymru.

Fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y bydd y prosiect yn derbyn £1.5 miliwn o hwb gan lywodraeth Cymru.

Bwriad y nawdd - Grant Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen 2015-16 - yw "caniatáu i bobl fyw, dysgu a mwynhau yn Gymru, gan wneud y Gymraeg yn rhan weledol o fywyd bob dydd".

Fe fydd y canolfannau newydd yn cael eu sefydlu yn Ynys Môn, Caerdydd, Tregaron, Aberteifi, Bangor a Phontardawe.

Ers mis Awst 2014, mae'r Grant Buddsoddi Cyfalaf wedi helpu i ddatblygu deng Canolfan Gymraeg newydd ledled Cymru.

MWY AM Y CHWE CHANOLFAN

Cyngor Ynys Môn - £58,843

Canolfan gyfathrebu i bobl ifanc yng Nghanolfan Bro Alaw ar Gampws Ysgol Uwchradd Bodedern. Bydd y cyllid yn galluogi'r ganolfan i ddatblygu sgiliau cyfathrebu pobl ifanc ar draws yr ynys drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd y ganolfan ym Modedern, lle crëwyd yr ail ganolfan drochi drwy'r Gronfa Grantiau Cyfalaf yn 2014-15. Bydd y prosiect yn cysylltu â'r ganolfan drochi ac yn gam nesaf i bobl ifanc ymarfer a defnyddio eu Cymraeg mewn canolfan anffurfiol.

Cyngor Caerdydd -£400,000

Bydd y ganolfan yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a phrofiadau Cymraeg. Bydd yn cynnwys caffi, siop lyfrau, ystafelloedd addysgu ac ardal arddangosfa, lle perfformio hyblyg a chyfleusterau cynadledda. Bydd yn ganolbwynt i ddiwylliant Cymraeg y ddinas ac yn ganolfan hygyrch ar gyfer addysg lle gall pobl ddysgu neu ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch cymdeithasol a chyfeillgar. Bydd yn gartref i nifer o sefydliadau Cymraeg ac yn cynnig amryw ddigwyddiadau a chyfleoedd i ymwelwyr, dysgwyr Cymraeg a phobl ifanc.

Cyngor Ceredigion - £150,000

Bydd canolfan drochi'n cael ei datblygu i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg ym mywydau bob dydd plant, pobl ifanc ac oedolion yn ardal Tregaron. Prif nod y ganolfan fydd helpu hwyrddyfodiaid er mwyn eu hintegreiddio mewn ysgolion dwyieithog prif ffrwd. Bydd y grant yn galluogi'r Cyngor i greu canolfan newydd yn Ysgol Uwchradd Tregaron drwy adnewyddu ystafelloedd segur yn yr adeilad a chreu ystafell adnoddau ar gyfer deunydd darllen a TGCh.

Coleg Ceredigion - £300,000

Caiff canolfan amlbwrpas ei hadeiladu ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi fel canolbwynt ar gyfer gweithgareddau addysgol, cymdeithasol a diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y ganolfan yn gweithio'n agos gyda datblygiad Castell Aberteifi i gefnogi adnoddau'r Gymraeg yn y dref, gan alluogi busnesau i gynnig gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y ganolfan yn bencadlys parhaol i sefydliadau Cymraeg yn y dref, yn lle cwrdd anffurfiol i'r gymuned a myfyrwyr, yn ganolfan bwrpasol er mwyn i fyfyrwyr ddilyn hyfforddiant galwedigaethol, er enghraifft mewn arlwyo a lletygarwch, ac yn gymhorthfa i fusnesau lleol gael cyngor a chyfarwyddyd ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleg Ceredigion wrth sicrhau cyllid ar gyfer £300,000 canolfan iaith yn Aberteifi

Cyngor Gwynedd - £300,000

Bydd Canolfan Gymraeg amlbwrpas yn cael ei chreu yng nghanol Dinas Bangor. Bydd hen adeilad y Clinig yn rhoi cyfleoedd i fusnesau ddefnyddio'r Gymraeg, cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r iaith, datblygu cynlluniau lleoliadau gwaith i bobl gael profiad gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, creu cyfleoedd i ddatblygu cyfryngau digidol a phrosiectau celfyddydau perfformio, hyrwyddo a hwyluso gweithgareddau cymunedol, a chynyddu ymwybyddiaeth ymysg twristiaid a phobl leol.

Academi Hywel Teifi - £300,000

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Academi Hywel Teifi (Prifysgol Abertawe) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i datblygu canolfan Gymraeg ym Mhontardawe ar gyfer addysg a dysgu, gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc, digwyddiadau cymunedol, siop lyfrau a swyddfeydd. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan y Brifysgol mewn partneriaeth â sefydliadau Cymraeg.

'Yn falch iawn'

Dywedodd y Prif Weinidog: "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi y caiff chwech o Ganolfannau Cymraeg newydd eu creu ledled Cymru gyda chymorth mwy nag £1.5m o gyllid cyfalaf.

"Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd sydd wrth wraidd gweledigaeth Bwrw Mlaen. Bydd datblygu'r canolfannau amlbwrpas ac ardaloedd dysgu hyn yn chwarae rôl allweddol i'r perwyl hwn.

"Bydd y canolfannau hyn yn cynnig pob math o gyfleoedd i bobl o bob oedran ddefnyddio, ymarfer a mwynhau'r iaith ar lawr gwlad.

"Rydym eisoes wedi gweld canolfannau cyffrous yn cael eu datblygu ledled Cymru drwy'r Grant Buddsoddi Cyfalaf, gan ddangos ein hymrwymiad i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y chwe phrosiect rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn datblygu dros y misoedd i ddod."