Sgitsoffrenia: 'Y dystiolaeth gryfaf'

  • Cyhoeddwyd
labordy

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw "wedi canfod y dystiolaeth gryfaf hyd yma o'r hyn sy'n achosi sgitsoffrenia".

Mae'r cyflwr yn effeithio ar tua 1% o boblogaeth y byd.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae mwtadiadau peryglus yn amharu ar gydbwysedd cemegol union yn yr ymennydd, sy'n gyfrifol am sut mae'r ymennydd yn gweithio ac yn datblygu.

Gwelodd y tîm "fod mwtadiadau sy'n gysylltiedig â chyflyrau yn amharu ar gyfres benodol o enynnau sy'n cyfrannu at signalau cynhyrfol ac ataliol, a bod gan y cydbwysedd rhyngddynt rôl hollbwysig yn y modd y mae'r ymennydd yn datblygu ac yn gweithio."

2011

Mae ymennydd iach yn gallu gweithio'n iawn o ganlyniad i gydbwysedd union rhwng signalau cemegol sy'n cyffroi ac yn atal gweithgarwch celloedd y nerfau. Mae ymchwilwyr sydd wedi astudio anhwylderau seiciatrig yn flaenorol wedi amau bod amharu ar y cydbwysedd hwn yn cyfrannu at sgitsoffrenia.

Daeth y dystiolaeth gyntaf fod mwtadiadau sgitsoffrenia yn ymyrryd â signalau cynhyrfol i'r amlwg yn 2011 gan yr un tîm.

I ddod i'w casgliadau, edrychodd y gwyddonwyr ar ddata genetig 11,355 o gleifion â sgitsoffrenia o gymharu â grŵp o 16,416 oedd heb y cyflwr.

Drwy gymharu'r amrywolion oedd gan bobl â sgitsoffrenia â'r rheini oedd heb y cyflwr, roedd y tîm yn gallu dangos bod y mwtadiadau mewn unigolion oedd â'r anhwylder yn tueddu i amharu ar enynnau sy'n gysylltiedig ag agweddau penodol o sut mae'r ymennydd yn gweithio.

Tybir hefyd bod effeithiau'r amrywolion sy'n achosi'r clefyd yn gysylltiedig ag anhwylderau niwroddatblygol eraill fel anabledd deallusol, Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth ac ADHD.

SGITSOFFRENIA: Y FFEITHIAU

Bydd sgitsoffrenia yn effeithio ar tua 635,000 o bobl yn y DU ar ryw adeg yn eu bywydau.

Amcangyfrifir bod sgitsoffrenia a seicosis yn costio tua £11.8 biliwn y flwyddyn i'r gymdeithas.

Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn aflonyddgar, a chael effaith enfawr ar allu unigolyn i gyflawni tasgau bob dydd, fel mynd i'r gwaith, cynnal perthynas a gofalu am eu hunain neu eraill.

'O'r diwedd'

"O'r diwedd, rydym yn dechrau deall beth sy'n mynd o'i le mewn achosion o sgitsoffrenia," meddai Dr Andrew Pocklington o Brifysgol Caerdydd.

"Mae ein hastudiaeth yn gam mawr tuag at ddeall y fioleg sy'n sail i sgitsoffrenia. Mae'n gyflwr hynod gymhleth ac mae ei darddiad wedi bod yn ddirgelwch i raddau helaeth i wyddonwyr tan yn ddiweddar iawn.

"Gyda lwc, mae gennym ddarn eithaf sylweddol o'r jig-so erbyn hyn fydd yn ein helpu i ddatblygu model cydlynol o'r clefyd, yn ogystal â diystyru rhai o'r posibiliadau eraill.

"Mae angen model dibynadwy o'r clefyd ar frys i lywio ymdrechion yn y dyfodol wrth ddatblygu triniaethau newydd, sydd heb wella ryw lawer ers y 1970au."

Dywedodd yr Athro Hugh Perry, sy'n cadeirio Bwrdd Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ein dealltwriaeth o achosion genetig sgitsoffrenia - gan ddangos sut y gall cyfuniad o namau genetig amharu ar gydbwysedd cemegol yr ymennydd.

"Mae gwyddonwyr yn y DU, fel rhan o gonsortiwm rhyngwladol, yn datgelu achosion genetig amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, fel sgitsoffrenia.

"Yn y dyfodol, gallai'r gwaith hwn arwain at ffyrdd newydd o ragfynegi risg unigolyn o ddatblygu sgitsoffrenia. Gall hefyd fod yn sail ar gyfer triniaethau newydd a dargedir sy'n seiliedig ar gyfansoddiad genetig yr unigolyn."