Tawel Fan: Gweinidog yn ymddiheuro
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi ymddiheuro am fethiannau ar ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fe wnaeth adroddiad annibynnol gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf ddod i'r casgliad fod cleifion wedi dioddef "camdriniaeth sefydliadol" yn uned Tawel Fan.
Dywedodd teuluoedd fod cleifion wedi cael eu trin fel anifeiliaid yn y sŵ ac mae cwynion yn erbyn deg aelod o staff wedi cael eu cyfeirio at gyrff proffesiynol.
Dywedodd Mr Drakeford y bydd "cyfarfod brys" yn cysidro gosod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan ofal mesurau arbennig.
Gallai hyn olygu fod Llywodraeth Cymru neu gorff arall yn cymryd rheolaeth dros rywfaint neu holl waith y bwrdd iechyd.
Ymddiheuro
Fe ymddiheurodd y gweinidog am fethiannau "sylfaenol" mewn safonnau gofal wrth i'r Cynulliad gynnal dadl frys ar y mater ddydd Mercher.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud yn barod y bydd camau disgyblu i ddod yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.
Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, y dylid diswyddo'r rhai hynny o'r bwrdd iechyd oedd yn gyfrifol am y methiannau, a hynny heb iawndal.
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y bwrdd iechyd i gael ei osod mewn mesurau arbennig, tra bod Plaid Cymru wedi galw am brawf dilysrwydd unigolion "ffit a chywir" i reolwyr ysbytai.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth ond fe benderfynodd y llu beidio â chymryd camau pellach.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro'n barod am y methiannau gafodd eu disgrifio yn yr adroddiad annibynnol gan yr arbennigwr iechyd Donna Ockenden, gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd31 Mai 2015