Bad Achub newydd Moelfre

  • Cyhoeddwyd
RNIBFfynhonnell y llun, Nicholas Leach
Disgrifiad o’r llun,

Criw Moelfre o flaen y "Kiwi"

Mae'r RNLI yn cynnal dathliadau ar Ynys Môn wrth i fad achub newydd Moelfre,"RNIB Kiwi", gael ei enwi yn swyddogol.

Hefyd fe fydd cartre' newydd y bad achub yn cael ei agor yn ffurfiol yn dilyn buddsoddiad o £10 miliwn.

Ers iddi hwylio am y tro cyntaf yn 2013 mae'r Kiwi wedi cael ei lansio 36 gwaith gan achub 45 o bobl.

Fe roddwyd £2.2 miliwn i'r RNLI gan y diweddar Reginald James Clark o Seland Newydd yn dilyn ei farwolaeth yn 2004.

Mae enw'r bad achub Tamar newydd, gwerth £2.7 miliwn, yn deyrnged iddo.

Cafodd Mr Clark ei achub gan fad achub yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd yn awyddus i gefnogi'r mudiad yn ei ewyllys.

Disgrifiad o’r llun,

Y "Kiwi" yn ymddagos o'r cwt newydd

Bydd aelodau teulu'r diweddar Mr Clark yn chwarae rhan flaenllaw yn ystod y seremoni agoriadol ddydd Sadwrn.

Yn ogystal bydd plant lleol yn canu eu "Cân Kiwi" ar y cyd a chôr lleol.

Fe agorwyd cwt newydd y bad achub am y tro cyntaf ym mis Mawrth ac ers hynny mae 13,000 o bobl wedi ymweld â'r safle.

Dywedodd rheolwr yr RNLI ym Moelfre, Rod Pace: "Rydw i mor falch bod teulu Reginald Clark wedi cytuno i enwi'r bad achub."

"Diolch i'w haelioni arbennig mae'r Kiwi yma yn helpu achub bywydau oddi ar arfordir Ynys Môn."

"Dydd Sadwrn fe fyddwn yn edrych i'r dyfodol, ac mae hyn yn agor penod newydd yn ein hanes balch o achub bywydau."