Cwest Milwyr y Bannau: 'Dim rheswm i ganslo ymarferiad'

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, MOD/PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013

Doedd meddyg y fyddin ddim o'r farn bod angen canslo ymarferiad gyda'r SAS, ble bu farw tri milwr, am fod milwr arall wedi dioddef o ordwymo yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Ond dywedodd y meddyg, sy'n cael ei adnabod fel 1H am resymau diogelwch, nad oedd yn gwybod ble roedd man casglu ambiwlansys y Gwasanaeth Iechyd yn ystod yr ymarferiad gyda'r SAS.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn yn ystod yr ymgyrch 16 milltir ar Fannau Brycheiniog ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd y tri wedi gordwymo wrth i'r tymheredd gyrraedd 27C ar ddydd poethaf y flwyddyn ger Pen y Fan.

Fe wnaeth Jonathan Hall, sy'n cynrychioli'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ofyn i 1H am gyflwr milwr arall, '2P', oedd wedi dioddef o ordwymo yn gynharach y diwrnod hwnnw.

'Cyflwr iawn'

Gofynnodd i 1H os oedd hi'n sefyllfa ble oedd yn meddwl y dylai'r ymarferiad gael ei ganslo.

"Dydw i ddim yn meddwl, roedd mewn cyflwr iawn," meddai 1H.

"Oni bai am ychydig o ddryswch fe wnaeth o wella yn eithaf sydyn, felly dydw i ddim yn meddwl y dylai'r ymarferiad fod wedi cael ei ganslo oherwydd 2P."

Dywedodd milwr 2P wrth y cwest wythnos ddiwethaf ei fod wedi bod yn bryderud am y ffordd roedd rheolfeydd - oedd wedi'u dylunio i gadw golwg ar iechyd milwyr - yn cael eu rhedeg.

Yn edrych yn ôl, dywedodd 2P y byddai dillad gwahanol a mwy o lefydd i gael dŵr wedi gwella'r amgylchiadau ar gyfer y milwyr.

Mae'r cwest yn parhau.