Newyddion da i glaf canser symudodd i gael triniaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ellis Roberts sy'n adrodd hanes Irfon

Mae dyn o Gymru sydd wedi gorfod symud i Loegr ar gyfer triniaeth canser wedi clywed bod ei gyflwr wedi gwella.

Mae Irfon Williams, o Fangor, yn diodde' o ganser y coluddyn sydd wedi lledaenu i'w iau.

Nawr mae Mr Williams wedi clywed fod y tiwmorau ei iau wedi lleihau'n arw, gyda maint un ohonyn nhw wedi lleihau o 8cm i 3.5cm.

Fe gafodd ei drin â chyffur cetuximab, sydd ddim ar gael yng Nghymru, ond oedd ar gael iddo yn Lloegr fel rhan o'r Gronfa Cyffuriau Canser yno.

Bu'n rhaid iddo symud at berthynas dros y ffin i gael y cyffur, ac mae nawr yn derbyn ei driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion.

"Dwi wedi gwirioni," meddai wrth raglen ITV Cymru, Y Byd ar Bedwar.

"Oedda' ni'n amlwg yn bryderus am y canlyniad, ond pan gawson ni'r newyddion da - yn well na beth oedd neb yn ei ddisgwyl - mi oedd o'n deimlad ffantastig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Irfon bellach yn derbyn ei driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion

Mae ymgyrch godi arian 'Tîm Irfon', a gafodd ei sefydlu gan Mr Williams, wedi llwyddo i godi dros £75,000 hyd yma ar gyfer cleifion canser yng ngogledd Cymru.

Mae'r ffaith ei fod wedi gorfod symud ei driniaeth i Loegr hefyd wedi ysgogi ymgyrch 'Hawl i Fyw', sy'n ceisio brwydro dros hawliau cleifion canser yng Nghymru.

'Gadael i lawr'

Ond er y newyddion da am ei gyflwr, dyw Irfon ddim yn hapus ei fod wedi gorfod symud i gael y cyffur.

Dywedodd: "O'n i byth yn meddwl y baswn i'n dweud hyn, 'mod i'n ddiolchgar iawn am yr hyn mae Lloegr wedi ei gynnig i fi.

"Dyna sy'n ei wneud o'n fwy anodd i fyw efo - y ffaith 'mod i'n teimlo 'mod i wedi cael fy ngadael i lawr gan fy ngwlad fy hun."

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod trefn yng Nghymru i drin pob cyflwr - nid canser yn unig.

Dywedon nhw fod cleifion yn aml yn cael triniaeth canser yn gynt yng Nghymru, ac nad yw'r gronfa yn Lloegr wastad yn help i gleifion.

Bydd Irfon yn cael gwybod yn yr wythnosau nesaf os fydd yn gallu cael llawdriniaeth i geisio cael gwared ar y canser yn yr iau.

Fe fydd stori Irfon i'w gweld yn llawn ar raglen y Byd ar Bedwar ar S4C wythnos i nos fawrth nesaf 23 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Irfon gyda'i wraig Becky a'i blant Lois, Owen, Beca, Sion a Ianto