O'r buarth i'r bocs
- Cyhoeddwyd
Neithiwr, cafodd ffarmwr o Lanuwchllyn lwyddiant ar raglen ITV 'The Cube'.
Enillodd Rhodri Jones £50,000 ar ôl cyflawni 5 gêm sy'n cyfuno sgìl, gallu corfforol a meddyliol, deallusrwydd a chyflymder ymateb - oll o fewn ciwb perspex 4m x 4m x 4m.
Swrreal
Yn siarad â Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru neithiwr, dywedodd Rhodri fod popeth braidd yn swrreal. Cafodd y rhaglen ei ffilmio ganol Medi, ac mae wedi gorfod cadw'r gyfrinach ers hynny. "Ac yn waeth na hynny", meddai, "doedden nhw ddim yn talu nes i'r rhaglen gael ei dangos chwaith!"
Prif her y gemau yw eu bod yn ymddangos mor syml a hawdd o'ch soffa cyfforddus, ond fod gymaint mwy o bwysau unwaith rydych chi yn y blwch. Mae Rhodri yn dweud fod hyn yn berffaith wir - yn enwedig gan dy fod ti'n ymwybodol fod y swm arian alli di ei ennill yn brysur dyfu, "… ac roedd y gwahaniaeth rhwng £20,000 a £50,000 i mi yn enfawr."
Dywedodd ei fod wedi ymarfer ychydig o gemau adref, ond dim byd wnaeth helpu, gan mai gemau gwahanol gafodd ar y rhaglen - dwy ohonyn nhw yn gemau hollol newydd.
Pryd i stopio
Penderfynodd beidio â chwarae'r chweched gêm i geisio ennill £100,000, oedd ddim yn ormod o demtasiwn, "gan mai gêm steady hand oedd o, ac roedd fy nwylo i yn bell o fod yn steady bryd hynny, yn enwedig gan fod gen i £50,000 ar y lein!"
Mae hi'n bwysig gwybod pryd i stopio, gan ei bod hi mor hawdd colli'r holl arian a mynd adre'n waglaw. Yn ôl Rhodri, aeth hanner y cystadleuwyr ar y gyfres ddiwethaf adref heb geiniog - mae hi'n hawdd meddwl 'jest un gêm arall…' Ond mae'n falch ei fod o wedi ennill o leia' 'chydig o arian, gan ei fod o'n credu byddai'r tynnu coes gan ei ffrindiau wedi bod yn annioddefol petai wedi mynd adref heb un dime goch!
Tensiwn a chyffro
Nid oedd y ffarmwr gwartheg duon defaid mynydd yn rhy nerfus cyn dechrau'r ffilmio, ond buan ddaeth y nerfau wrth iddo wneud camgymeriadau a dechrau colli bywydau. Ond roedd y cyflwynydd Phillip Schofield wrth law i gynnig cefnogaeth. "Roedd yn foi genuine ac ar fy ochr i", meddai Rhodri. "Roedd yn tynnu coes ond roeddech chi'n cael yr argraff ei fod isio i bawb wneud yn dda." Mi gafodd Phillip gryn drafferth i yngau enw tad Rhodri, Llew, fodd bynnag - fel sydd yn amlwg o'i gynigion creadigol ar y rhaglen!
Doedd y rhaglen ddim yn cymryd llawer iawn i'w ffilmio, gan eu bod nhw'n ceisio cynyddu'r tensiwn, felly roedd y gemau yn dod un ar ôl y llall - "un funud roedd rhaid i ti redeg fel iâr heb ben mewn un gêm, ac wedyn o fewn dau funud, roedd rhaid i ti gael llaw hollol llonydd mewn gêm arall."
Roedd ffeindio amser i ffilmio hefyd wedi bod yn her, gan ei fod ond wedi cael wythnos o rybudd gan y cwmni teledu i fynd i Lundain i recordio, roedd priodas ei gefnder y diwrnod ar ôl y ffilmio, a phriodas Rhodri ei hun â'i ddyweddi Claire wythnos yn ddiweddarach! Mae hi'n deg dweud, felly, ei fod wedi cael ychydig o wythnosau digon cyffrous!
Felly ai car cyflym neu wyliau moethus mae Rhodri am ei brynu â'r wobr? Na - tarw du Cymreig sydd yn mynd â bryd Rhodri, ac mae'n debyg ei fod wedi cael nifer o negeseuon yn barod gan bobl sydd yn cynnig gwerthu un iddo am y pris rhesymol o… £50,000!