Simon Dean: 'Dealltwriaeth lawn' o'r dasg
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr dros dro bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dweud ei fod wedi derbyn y rôl "gyda dealltwriaeth lawn o'r hyn yr ydw i'n ei gymryd".
Roedd Simon Dean yn siarad mewn cyfarfod llawn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru ddydd Iau.
Cafodd ei benodi ddydd Mawrth gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dilyn penderfyniad i wahardd yr Athro Trevor Purt o'r swydd a rhoi'r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig.
Wrth bwysleisio pwysigrwydd adennill hyder y cyhoedd, dywedodd Mr Dean y byddai dysgu gwrando ar gymunedau yn allweddol.
'Un unigolyn'
"Mae angen i ni gydnabod lle ydyn ni," meddai. "Rydw i'n derbyn yr her ar ran y bwrdd iechyd. Rydw i'n disgwyl i ni fod yn atebol i'r gweinidog."
Ond ychwanegodd: "Un unigolyn ydw i. Nid fi yw achubwr y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru."
Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Drakeford gadarnhau mai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r mesurau arbennig, a bydd adolygiad o'r bwrdd yn cael ei gynnal ymhen pedwar mis.
Ychwanegodd y byddai'r mesurau yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau mewn llywodraethiant a gofal, a cheisio adfer hyder y cyhoedd yn y bwrdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015