Betsi Cadwaladr: Datganiad Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi gwneud datganiad yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth, wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi gael ei osod dan fesurau arbennig ddydd Llun.
Dywedodd mai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r mesurau arbennig, ac y bydd adolygiad o'r bwrdd yn cael ei gynnal ymhen pedwar mis.
Yn gynharach yn y dydd daeth cyhoeddiad y byddai Trevor Purt yn cael ei atal o'i waith fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn syth.
Wrth gadarnhau penderfyniad hwnnw bnawn dydd Mawrth, ychwanegodd Mr Drakeford fod dirprwy brif weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Simon Dean, wedi'i benodi i ofalu am ddyletswyddau'r swydd yn syth.
"Bydd ei benodiad yn sicrhau sefydlogrwydd ac yn ffynhonell o arweiniad," meddai Mr Drakeford.
Yn ôl llywodraeth Cymru, roedd y penderfyniad i atal Mr Purt o'i swydd yn "weithred niwtral" oedd yn rhoi cyfle i'r bwrdd symud ymlaen.
Manylion y mesurau
Aeth Mr Drakeford i fanylu ar rai o'r meysydd y bydd y mesurau'n canolbwyntio arnyn nhw i geisio sicrhau gwelliannau, sef:
Llywodraethiant
Gwasanaethau iechyd meddwl
Gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd
Gwasanaethau meddyg teulu a gofal sylfaenol
Adfer hyder y cyhoedd yn y bwrdd ac ymdrechu i ailgysylltu gyda'r cyhoedd a gwrando ar eu barn
Dywedodd y byddai nifer o arbenigwyr yn rhoi cyngor i'r bwrdd ar y gwahanol feysydd, sef Dr Chris Jones, Peter Meredith-Smith ac Ann Lloyd.
Wedi i'r mesurau arbennig gael eu cyflwyno, bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r bwrdd dan ofal y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Arolygiaeth Gofal Iechyd, gyda'r casgliadau i'w cyflwyno i'r llywodraeth ymhen pedwar mis.
"Mae yna amser heriol o'n blaenau," meddai Mr Drakeford. "Ond bob dydd mae dros 500,000 o bobl yn cael y gofal iechyd gorau yng Nghymru. Bydd y camau hyn yn sefydlogi a chryfhau'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru."
'Pryderon difrifol'
Wrth fanylu ar y penderfyniad i gyflwyno mesurau arbennig, dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn "ymateb i bryderon difrifol" a bod y cam yn "adlewyrchu'r ffaith nad oedd y bwrdd iechyd wedi sefydlu hyder mewn ystod o feysydd."
Wrth groesawu'r mesurau arbennig, mae cadeirydd y bwrdd, Dr Peter Higson, wedi dweud: "Mae'n glir bod angen cefnogaeth sylweddol ar y bwrdd iechyd i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu."
Ychwanegodd: "Mae angen cael hyn yn iawn er lles pawb os yw'r bwrdd am ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng ngogledd Cymru ac adennill eu ffydd."
Dywedodd hefyd bod yr hyn a ddigwyddodd ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn "anfaddeuol, cywilyddus a ffiaidd".
Fe wnaeth Mark Drakeford gyhoeddiad ddydd Llun y byddai'r bwrdd yn mynd dan fesurau arbennig yn dilyn adroddiad damniol i'r gofal ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Yn gynharach gwrthododd Mr Drakeford yr awgrym y dylai'r mesurau arbennig fod wedi eu gweithredu yn gynt, o ystyried adroddiad Tawel Fan.
Dywedodd: "Mae'r perthynas rhwng Tawel Fan a phenderfyniad ddoe yn wan achos bod Tawel Fan wedi digwydd mwy na 18 mis ynghynt.
"Ond, be ni'n mynd i 'neud heddi' yw esbonio'r broses ni wedi defnyddio, y broses ni wedi cytuno gyda'r Cynulliad.
"Pan ni'n 'neud dewisiadau difrifol fel hyn mae'n bwysig dros ben i gadw at y system sydd 'da ni, a 'neud y penderfyniadau mewn ffordd iawn."
Ymateb
Y Ceidwadwr Darren Millar oedd y cyntaf i godi i ymateb i'r gweinidog. Roedd yn croesawu'r mesurau arbennig, ond yn dweud ei bod wedi cymryd gormod o amser cyn cael eu gweithredu i fwrdd iechyd oedd yn "gamweithredol".
Dywedodd: "Rwy'n nodi ymadawiad Trevor Purt y prif weithredwr, ond pam nad oes mwy o ymadawiadau, yn enwedig rhai o aelodau'r bwrdd oedd yno pan oedd y materion yma'n codi gyntaf yn Tawel Fan ddwy neu dair blynedd yn ôl.
"Mae pobl gogledd Cymru wedi bod yn mynnu gweithredu ers amser maith, ond tan heddiw does dim ymateb wedi dod."
Roedd Ann Jones, aelod Llafur Dyffryn Clwyd, hefyd wedi galw am ymadawiad Mr Purt, ond gofynnodd hi hefyd: "Sut y gallwn ni fod yn sicr y bydd pobl gogledd Cymru yn cael eu clywed. Mae hynny wedi methu hyd yma.
"Sut y gallan nhw adfer hyder y bydd y bwrdd iechyd yn cyflawni gwelliannau?"
Roedd Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru yn hallt ei feirniadaeth o Lywodraeth Cymru, gan ddweud:
"A fyddech chi'n cytuno mai nid dim ond Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd angen adfer hyder y cyhoedd ond Llywodraeth Cymru?
"Rydych wedi sôn am gyfnod o bedwar mis.. fe fyddwn ni dweud bod hynny'n uchelgeisiol. Pa mor hir ydych chi'n wir gredu y bydd rhaid i ni aros i weld gwelliannnau go iawn?"
Aeth Aled Roberts ar drywydd gwahanol ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
"Nid jyst cyfnod anodd ond hanes anodd sy'n perthyn i'r bwrdd iechyd yma. Mae diwylliant yn y bwrdd sydd heb newid ers dwy neu dair blynedd er bod son am y diwylliant yn newid wedi bod dro ar ôl tro.
"Un o brif nodweddion adroddiad Donna Ockenden {i ward Tawel Fan} oedd ei bod hi'n edrych ar y peth o'r tu allan, ac eto mae'r holl arbenigwyr yr ydych wedi eu penodi heddiw wedi bod yn rhan o'r GIG yng Nghymru ers tro... mae rhai ohonyn nhw yn rhan o'r broblem.
"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n medru troi'r peth rownd, ond dwi'n meddwl byddai'n well cael pobl o'r tu allan."
Dadansoddiad Vaughan Roderick
Mae Llafur wedi ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddwywaith ers datganoli.
Roedd y penderfyniad nad oedd dewis ond ymyrryd yn achos Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn un poenus i'r Llywodraeth felly.
Mae'n gyfystyr a chyfaddefiad nad ydy'r drefn a luniwyd ganddi yn darparu gwasanaeth teilwng i gleifion ar hyd rhanbarth eang o Gymru.
Er y bydd y Llywodraeth yn mynnu mai buddiannau cleifion oedd y peth pwysicaf ar feddwl gweinidogion wrth gymryd y penderfyniad fe fyddai'n naïf i feddwl nad oedd y ffaith bod etholiad cynulliad i'w gynnal ymhen llai na blwyddyn hefyd yn ffactor.
Roedd a wnelo buddugoliaeth annisgwyl y Ceidwadwyr yn Nyffryn Clwyd yn yr Etholiad Cyffredinol lawer â phroblemau diweddar Ysbyty Glan Clwyd a gellir disgwyl i record iechyd Llywodraeth Cymru fod yn o brif bynciau llosg etholiad 2016.
Mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth yn credu bod caniatáu i bethau barhau fel maen nhw'n yn opsiwn derbyniol ond mae 'na risg wleidyddol mewn ymyrryd hefyd.
Fe fydd hin anoddach i'r Llywodraeth feio eraill am unrhyw broblemau sy'n codi yn y gwasanaeth yn y Gogledd rhwng nawr a'r etholiad. Fe fydd yr 'hyd braich' yn diflannu a'r cyfrifoldeb yn sgwâr ar ysgwyddau'r gweinidog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2015