Picton: Arwr neu fwystfil?

  • Cyhoeddwyd
Thomas Picton

Mae hi'n 200 mlynedd ers brwydr enwog Waterloo ar 18 Mehefin 2015. Roedd nifer o Gymry ar faes y gad ar y diwrnod y llwyddodd y cynghreiriaid i drechu'r Ffrancwyr dan arweiniad Napoleon. Yn eu plith roedd Syr Thomas Picton. Fo oedd y swyddog mwyaf blaenllaw o blith byddin y Cadfridog Wellington i gael ei ladd yn y brwydro.

Ond er ei aberth y diwrnod hwnnw, mae 'na gryn anghytuno yng ngorllewin Cymru ynglŷn â sut y dylen ni fel Cymry gofio Syr Thomas Picton.

Er ei fod yn filwr uchel ei barch, roedd o'n euog hefyd o gamdrin caethweision. Mi gafodd Cymru Fyw ddau ddarlun ohono gan ddau o haneswyr Sir Gâr.

Ann Dorset (Amgueddfa Caerfyrddin):

A ddylem ni gofio Picton? Dylsen, ond fel dyn o'i amser.

Ef oedd y ffigwr uchaf ym myddin Prydain i gael ei ladd yn Waterloo yn 1815. Cafodd ei ddisgrifio gan Dug Wellington fel 'rough foul-mouthed devil'.

Yn ystod ei fywyd fe wnaeth Picton dipyn o enw i'w hun, ac nid wastad mewn goleuni da, ond er hyn fe gafodd angladd teilwng i arwr.

Mae cerfluniau iddo yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain ac yma yng Nghaerfyrddin. Mae 'na strydoedd yn y dre' wedi eu henwi ar ei ôl ac mae 'na ddarlun mawr ohono yn hongian yn Llys y Goron ac, wrth gwrs, mae Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd.

Waterloo oedd y frwydr dyngedfennol a ddaeth â'r rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc i ben. Er i Picton gael anafiadau drwg ddeuddydd ynghynt, roedd e yn barod am y frwydr fawr ac fe gafodd ei glodfori fel arwr cenedlaethol a lleol.

Er hyn, does dim dwywaith fod y Cymro yma o Sir Benfro yn fwystfil. Fel Llywodraethwr Trinidad rhoddodd gosbau llymach i'r caethweision a oedd yn gweithio yn y caeau siwgr.

Penderfynodd llys yn Llundain bod Picton yn euog o arteithio merch ifanc yn Trinidad a oedd wedi ei chyhuddo o ddwyn, ond cafodd y dyfarniad ei wrthdroi yn ddiweddarach. Roedd gan Picton blanhigfeydd siwgr a chaethweision ei hun hefyd.

Y ffaith fod Syr Thomas Picton yn fwystfil oedd yn ei wneud yn filwr llwyddiannus, ac mae rhaid cofio pa mor anodd oedd bywyd i'r rhan fwyaf o bobl ar droad y G19fed.

Roedd llawer yn cytuno ag agwedd Picton tuag at gaethweision ac mae cyfoeth llawer o'n dinasoedd yn deillio o'r fasnach caethiwo a'r planhigfeydd siwgr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 120,000 o ddynion o Brydain, Prwsia, Yr Iseldiroedd a Hanover yn brwydro yn erbyn Napoleon a'r Ffrancwyr yn Waterloo

J Towyn Jones (Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin):

Pan oedd cofadail gyntaf Syr Thomas Picton yn dadfeilio yn 1846, sylw sarcastig rhywun oedd ei bod fel ei gymeriad yn haws ei thynnu ar led na'i chyweirio.

Caed asesiad o'i natur yn ymateb neb llai na'r Dug Wellington ei hun pan achwynodd swyddog cyflenwi wrtho fod Picton wedi bygwth ei grogi wrth y goeden agosaf oni chai fwyd ar unwaith i'w ddynion. "Gwnewch felly! Wn i ddim am neb tebycach na Picton i fod cystal â'i air!"

Ond, wedi cydnabod hynny, ymarferiad hollol ofer yw beirniadu cymeriad hanesyddol yn ôl safonau oes arall.

Nid oes yr un dewin (mytholegol fel Myrddin na mwy real!) fedr newid yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Unwaith ein bod yn penderfynu dileu cofnodion gweladwy, o unrhyw natur, o'r hyn a fu unwaith - does dim pendraw ar y peth.

Adar o'r unlliw â'r fandaliaid ffyrnig o ogledd ddwyrain yr Almaen ddistrywiodd Rhufain yn y bumed ganrif yw'r sawl fynn ddileu olion cyfnod blaenorol.

O'r un duedd â'r Taliban ddinistriodd gerfddelwau Bwda yn nyffryn Bamyan yn Affganistan ym Mawrth 2001. A phenboethiaid Isil y mae adfeilion Rhufeinig enwog Palmyra mewn perygl rhagddynt ar hyn o bryd.

A thato o'r un rhych yw'r rhai fynnant gael gwared ar obelisg presennol Syr Thomas Picton a'i bortread.

O waredu'r portread oni ellid dymchwel Neuadd y Dre' (a fu'n gartre iddo erioed) hefyd. Wedi'r cyfan, perthyn i'r G18fed mae honno nid i'n hoes flaengar ni.

'Does fawr ar ôl o Gastell Caerfyrddin - ddown ni ben â hwnnw mewn prynhawn. Ac ar ein ffordd, beth am roi fforch JCB o dan ddelw y Cadfridog Syr William Nott?

Yn nes i fyny'r dyffryn peidiwn adael carreg ar garreg o Dŵr Paxton uwchlaw Llanarthne.

Wedi'r cyfan dim ond ei godi wnaeth e i edrych lawr ar bobl Sir Gâr o sbeit am golli 'lecsiwn. Does dim pendraw ar symbolau o'r gorffennol i'w difodi. Y Pyramidiau a'r Parthenon, pam lai? Mae'r byd yn ymagor o'n blaen...

Ond wnawn ni ddim newid dim a ddigwyddodd mewn ffaith drwy hynny. Yn gam neu yn gymwys fe fu Picton yn arwr yng Nghaerfyrddin unwaith a fedrwch chi na minnau na neb arall newid hynny.