Ymchwiliad i achos o ymladd moch daear yn y Fflint

  • Cyhoeddwyd
ciFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd yr elusen adroddiadau fod anifeiliaid yn ardal Ffordd yr Ysgol, yn sgrechian mewn trallod am tua 01:00 fore Sadwrn.

Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i drigolion yn y Fflint, ddarganfod ci wedi ei anafu a mochyn daear benywaidd wedi marw mewn pwll o waed fore Sadwrn.

Dywedodd yr RSPCA fod yr achos yma o ymladd moch daear honedig yn "enghraifft o greulondeb rhagfwriadol".

Fe dderbyniodd yr elusen adroddiadau fod anifeiliaid yn ardal Ffordd yr Ysgol, yn sgrechian mewn trallod am tua 01:00 fore Sadwrn.

Dywedodd arolygydd yr RSPCA, Anthony Joynes, fod darganfod yr anifeiliaid "yn olygfa hynod o erchyll".

Dywedodd: "Mae'n edrych i ni fel bod rhywun wedi dod a'r ci yna, er mwyn ymosod ar y mochyn daear a'u bod wedi eu gadael i ymladd nes bod un ohonynt yn marw.

"Byddai'r moch daear wedi marw mewn ffordd erchyll, a gan mai benyw oedd, gallai moch daear ifanc fod angen ei gofal yn rhywle."

Dywedodd fod y ci, sydd wedi cael ei enwi yn Fflint erbyn hyn, mewn "cyflwr erchyll" ac roedd angen sylw milfeddygol brys.

"Mae gorfodi anifeiliaid i ymladd yn ffurf ddifrifol iawn o greulondeb rhagfwriadol," ychwanegodd Mr Joynes.

Dywedodd yr RSPCA eu bod yn ymroddedig i ymchwilio i ddigwyddiadau o'r fath a dod â drwgweithredwyr gerbron y llysoedd.