Dysgwr y Flwyddyn: Pump yn y ras
- Cyhoeddwyd

Plas Gregynog oedd lleoliad y rownd gyn-derfynol eleni
Ar ddiwedd diwrnod hynod lwyddiannus yn Ngregynog, cyhoeddwyd manylion y rheiny sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni.
Yn 么l yr eisteddfod: "Oherwydd bod y safon yn arbennig o uchel eleni, nid oedd modd cytuno ar bedwar yn unig ac felly, bydd pump o ddysgwyr Cymraeg yn cael mynd i'r rownd derfynol a gynhelir ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod, ddydd Mercher 5 Awst."
Fe fydd canlyniad y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig y noson honno yng Ngwesty Llyn Efyrnwy, Llanwddyn.
Enwau'r rheiny ar y rhestr fer yw Gari Bevan, o Bedlinog, Deiniol Carter, o Gaerdydd, Debora Morgante, o Rhufain, Dianne Norrell, o Sir Drefaldwyn a Patrick Young o Lan Ffestiniog.
Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, "Unwaith eto eleni, mae'r safon wedi bod yn eithriadol o uchel yn y gystadleuaeth ac mae'r cystadleuwyr a'r beirniaid wedi cael diwrnod ardderchog yng Ngregynog.
"Mae hanes rhai o'r cystadleuwyr a'u taith i ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth, ac mae pawb wedi bod mor frwdfrydig wrth s么n am fynd ati i ddysgu'r iaith. Gobeithio y bydd y pump yn y rownd derfynol yn ysbrydoli ac yn annog eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg"
Fe ymunodd enillydd y llynedd, Joella Price, sy'n nyrs gofal dwys yng Nghaerdydd, 芒'r ymgeiswyr yng Ngregynog ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb ddydd Sadwrn.

'Gweithio'n arbennig o dda'
Yn ogystal 芒 chynnal cystadlaethau ar gyfer dysgwyr, mae'r Eisteddfod yn cynnal nifer o sesiynau ar gyfer busnesau ardal Maldwyn a'r Gororau i'w hannog i ddefnyddio'r Gymraeg gydag ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod eleni.
Meddai Catrin Evans, Swyddog y Dysgwyr yn yr Eisteddfod: "Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau blasu ar gyfer busnesau lleol wrth i'r Eisteddfod deithio o amgylch Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw'n gweithio'n arbennig o dda.
"Mae'n gyfle i helpu staff i gynnal sgyrsiau byr gyda chwsmeriaid yn y Gymraeg, a'r gobaith yw y bydd nid yn unig yn rhoi hyder i fusnesau ddefnyddio'r iaith gydag ymwelwyr yn ystod ac ar 么l yr 诺yl, ond hefyd y bydd amryw yn mynd ati i ddysgu Cymraeg ar 么l yr Eisteddfod.
"Efallai y bydd un o enillwyr Dysgwr y Flwyddyn y dyfodol yn dechrau dysgu yn un o'r sesiynau hyn - pwy 芒 诺yr!"