Parhau i feddiannu Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Protest Pantycelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae pump o'r ymgyrchwyr wedi bod ar do'r adeilad fel rhan o'u protest

Mae dros 12 o brotestwyr yn dal i feddiannu rhan o neuadd breswyl Pantycelyn, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Llun ac mae pump ohonynt wedi bod ar do'r adeilad fel rhan o'u hymgyrch.

Mae'r protestwyr - yn aelodau o Gymdeithas yr Iaith ac yn fyfyrwyr - wedi bod yno ers ddydd Sul fel rhan o brotest i ddiogelu dyfodol Pantycelyn fel llety myfyrwyr Cymraeg.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ystyried cau'r neuadd o fis Medi er mwyn gwneud gwaith adnewyddu, gan ddweud y bydd llety cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu mewn neuadd arall.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan Gyngor y brifysgol wythnos i ddydd Llun.

Dywedodd Heledd Llwyd, sydd newydd raddio o'r brifysgol ac ymysg y protestwyr, ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore dydd Llun: "Ni just moyn dangos i'r Brifysgol ein bod ni o ddifrif am hyn...ni'n derbyn y bydd yn rhaid cau'r neuadd er mwyn ei hadnewyddu ond dyw nhw heb roi amser penodol o pryd bydd y neuadd yn ail-agor, pryd y bydd sicrwydd ariannol - dim byd.

"Maen nhw wedi dweud fod y newidiadau yn y byr dymor wedi cael eu gwneud dros wyliau'r haf, felly dwi ddim yn gweld pam na all Pantycelyn fod ar agor ym mis Medi.

"Maen nhw wedi cynnig llety myfyrwyr Cymraeg dros dro i ni, ond dyw e ddim yn ddigonol oherwydd heblaw bod e'r un strwythur ag adeiledd a'r neuadd bresennol fyddwn ni ddim yn hapus."

Disgrifiad,

Hynek Janqusek o Cymdeithas yr Iaith

Ympryd

Mae rhai o fyfyrwyr y Brifysgol wedi penderfynu ymprydio fel rhan o'r ymgyrch yn ogystal.

Bydd yr ympryd yn dechrau ar ddydd Sul 21 Mehefin - 24 awr cyn cyfarfod Cyngor y Brifysgol - ac yn "parhau am gyfnod amhenodol", yn ôl llefarydd.

Ychwanegodd: "Byddai'n well gennym osgoi cam mor ddifrifol, ond mae'r myfyrwyr o'r farn bod y cam hwn yn angenrheidiol yn wyneb y bygythiad i Neuadd Pantycelyn ac amharodrwydd y Brifysgol i wrando ar lais y myfyrwyr a phobl Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Y myfyrwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd Pantycelyn ddydd Sul

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod yn "gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg, ac yn deall ac yn gwerthfawrogi'r angen am gymuned lle mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd."

Mae'r Brifysgol eisoes wedi cynnal trafodaethau ac ymweliadau safle gydag UMCA ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i'r llety a'r gofod cymunedol a chymdeithasol a fydd ar gael ar eu cyfer, petai Pantycelyn ddim ar gael.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr.

"Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr."

Bydd Cyngor y Brifysgol yn cwrdd ddydd Llun 22 Mehefin i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Pantycelyn.

Disgrifiad,

Eiri Angharad o Cymdeithas yr Iaith