Llangollen: Camgymeriad yn atal fisas

  • Cyhoeddwyd
Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ar draws y byd yn dod i gystadlu yn yr eisteddfod

Mae camgymeriad gan y Swyddfa Gartref yn golygu y gallai nifer o gystadleuwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gael trafferth dod i'r wlad.

Eisoes mae aelod seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod cystadleuwyr yn cael fisas mewn pryd i gystadlu.

Derbyniodd yr eisteddfod lythyr yn gynharach eleni yn eu hysbysu am "amryfusedd gweinyddol" wrth i newidiadau i'r rheolau mewnfudo gael eu gwneud ym mis Chwefror eleni.

Yn rhan o'r rheolau mae rhestr o wyliau sy'n cael eu heithrio o'r angen i gael trwydded arbennig, ond fe gafodd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ei gadael allan o'r rhestr mewn camgymeriad.

Yn y llythyr mae swyddog o'r Swyddfa Gartref yn ymddiheuro am unrhyw dramgwyddo.

'Synnu a gwylltio'

Ond dywedodd Susan Elan Jones: "Roedd swyddogion yr Eisteddfod a minnau wedi synnu a'n gwylltio pan ddaeth y llythyr o'r Swyddfa Gartref... mae'r Eisteddfod yn bwysig dros ben i'r ardal.

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyfadde' iddyn nhw wneud camgymeriad, ac mae'n hanfodol nawr eu bod yn gwneud yn iawn am hynny."

Ond dywedodd Swyddog Cysylltiadau Cystadleuwyr Eisteddfod Llangollen, Merle Hunt, wrth BBC Cymru ei bod yn rhy hwyr i'r Eisteddfod gael ei chynnwys ar y rhestr eithrio am eleni a bod rhai cystadleuwyr eisoes wedi cael trafferth sicrhau fisa.

Ychwanegodd Merle Hunt bod yr Eisteddfod yn dal i ddisgwyl clywed a fydd dros 100 o ddawnswyr a cherddorion o nifer o wledydd yn derbyn fisa mewn pryd i gystadlu.

Eisoes mae nifer o bobl o China, Algeria, Tanzania a'r Traeth Ifori wedi cael eu gwrthod tra bod dau grwp o India, 14 o ddawnswyr o Ghana, pum grwp gwahanol o Morocco a phum unigolyn o Nepal yn dal i obeithio sicrhau fisa mewn pryd.

'Dramatig'

Dywedodd Ms Hunt: "Byddai rhoi'r digwyddiad ar restr y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau bod cystadleuwyr yn dod i'r wlad am resymau dilys."

Gan nad yw'r Eisteddfod ar y rhestr mae hynny'n golygu ei bod yn cymryd mwy o amser i brosesu ceisiadau am fisas, meddai.

Dywedodd hefyd os na fydd fisas wedi cael eu caniatau erbyn dydd Gwener yr wythnos nesa', yna bydd rhaid i drefnwyr yr eisteddfod gymryd na fyddai'r cystadleuwyr yna'n mynd i ddod ac y byddai effaith eu habsenoldeb yn "ddramatig".

Yn eu llythyr, dywedodd y Swyddfa Gartref bod "ffyrdd amgen" yn gallu cael eu defnyddio yn y cyfamser er mwyn cael cystadleuwyr i'r Eisteddfod rhwng 6-12 Gorffennaf.

Nid dyma'r tro cyntaf i gystadleuwyr gael trafferth sicrhau fisa i ddod i'r ŵyl - fe gafodd nifer eu gwrthod am fisas yn 2014 a 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol