Gwlad...fa! Gwlad...fa!

  • Cyhoeddwyd
Jason Evans:
Disgrifiad o’r llun,

Jason Evans: "Yn amlwg ni fu i'r darn gwladgarol erioed lwyddo ym Mhatagonia, ble mae'r gymuned Gymraeg dal yn canu "Hen Wlad Fy Nhadau".

Tra'n gweithio fel Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol daeth Jason Evans a'r draws dogfen hynod yn ymwneud â hanes y Cymry ym Mhatagonia.

Er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar Wicipedia am y Wladfa mae Jason ar y cyd gyda phrosiect Casgliad y Werin wedi bod yn gwahodd y cyhoedd i rannu gwybodaeth a lluniau yn ymwneud â'r Wladfa.

Ymhlith y dogfennau sydd wedi dod i'r fei mae hen bamffled ac ynddo geiriau cân sy'n swnio'n gyfarwydd.

Pamffled propaganda?

Wrth i mi gasglu deunydd ymchwil yn barod ar gyfer y digwyddiad, deuthum ar draws hen bamffled o'r enw 'Adroddiad y Parch. D. S. Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig' ble mae'r awdur yn adrodd ar gyflwr amaethyddiaeth, y bywyd gwyllt, anifeiliaid, crefydd, a phob agwedd o fywyd yn y Wladfa.

Mae'r pamffled, dyddiedig 1875 yn ddarn clir o bropaganda gyda'r nod o annog rhagor o bobl i ymfudo. Ar ddiwedd yr adroddiad, dan y teitl "Gwlad Newydd y Cymry" mae yna gân, a briodolir i ŵr o'r enw Lewis Evans, bardd, telynor, ac un o'r ymsefydlwyr Cymreig cyntaf i ymfudo i Batagonia.

Rwy'n adnabod y gân ar unwaith. Wedi ei seilio ar gân boblogaidd Evan James sef 'Hen Wlad Fy Nhadau', mae fersiwn Y Wladfa yn dechrau 'Y mae Patagonia yn annwyl i mi' ac yn cloi gyda 'O! bydded I'r Wladfa barhau'. Mae'r darn yn disgrifio harddwch yr afon Camwy a'r 'Andes wen fawr'.

Disgrifiad o’r llun,

Cwm Hyfryd

Cân boblogaidd neu anthem Genedlaethol?

Mae'r darn yn cael ei gyflwyno yn yr adroddiad fel cân ar gyfer cenedl Gymreig newydd - anthem 'Genedlaethol'. Mae hyn yn 1875, 30 mlynedd cyn i'r cyfansoddiad gwreiddiol gael ei ganu cyn gêm bêl-droed neu rygbi rhyngwladol.

Erbyn 1875 roedd "Hen Wlad Fy Nhadau" yn gân boblogaidd yn eisteddfodau a digwyddiadau cymdeithasol eraill, ond mae'r darganfyddiad yma yn awgrymu fod rhai yn barod yn gweld y gân fel anthem 'Genedlaethol'.

Hyd yn hyn ni allaf ddod o hyd i gyfeiriad arall i'r anthem ac mae'n ymddangos ei bod wedi ei cholli mewn hanes ers dros 100 mlynedd, hyd nes iddi gael ei ail-darganfod yn ddiweddar. Yn amlwg ni fu i'r darn gwladgarol erioed lwyddo ym Mhatagonia, ble mae'r gymuned Gymraeg dal yn canu "Hen Wlad Fy Nhadau".

Heb ei chanu ers dros ganrif

Mae'r darganfyddiad yn rhoi i ni gipolwg diddorol ar fywydau'r ymsefydlwyr cynnar arloesol. Mae'r gân yn portreadu pobl yn dathlu sylfaen cenedl wirioneddol Gymreig, yn rhydd o'r ormes hanesyddol o'u traddodiad, iaith a diwylliant.

Buaswn nawr wrth fy modd yn clywed y gân yn cael i chanu gan gôr unwaith eto, yn ôl pob tebyg am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd.

Yn sicr mae'n rhaid fod yr anrhydedd honno yn disgyn ar y gymuned Gymraeg sy'n dal yn llwyddo yn y Wladfa.

Hefyd gan y BBC