Ateb y Galw: Stifyn Parri
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma yr actor, cyflwynydd a chynhyrchydd Stifyn Parri sy'n cael ei holi gan Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan ei ffrind agos, y cyflwynydd tywydd Siân Lloyd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Iste ar lin Mam yn deud wrth hi am beidio â phoeni ac i stopio crio tra roedd gen i waed yn llifo o 'mhen wedi i mi drio neidio, gan ddefnyddio'r soffa fel trampolîn, glanio yn y pram, rholio'r pram ar draws yr ystafell er mwyn troi'r teledu ymlaen.
Yn anffodus roedd mam wedi symud y pram a glaniais ar fy nhalcen yn erbyn y bwrdd coffi yn ddwy oed!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Wei Wei Wong, merch Cheiniaidd a oedd yn dawnsio efo'r Young Generation ar y teledu.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Torri gwynt o flaen Arolygydd Ysgolion yr HMI wrth ddangos fy noniau ar y trampolîn yn Ysgol Morgan Llwyd yn 15 oed.

"Dwi mor falch nad yw Stifyn Parri yn un o'r selebs yn y gyfres hon!"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ddoe. Dwi'n crio lot gormod. Pob pennod o Long Lost Family a One Born Every Minute, a sawl ffilm.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, torri ar draws pobl yn siarad gan fod fy mrwdfrydedd yn gryfach na fi.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Efrog Newydd heb os nac onibai.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mi drefnais i barti i fy ffrindiau i gyd a fy nheulu i ddiolch iddyn nhw am 50 mlynedd o lawenydd pur i'm mhenblwydd. Noson a thrichwarter.
Oes gen ti datŵ?
Yn anffodus nacoes. Pan gychwynais i'r Gymdeithas SWS blynyddoedd yn ôl, roeddwn i isho cael y logo ar foch fy nhin sef sws, fel bod rhywun wedi cusanu fy moch a gadael siap y gwefusau mewn lipstic, ond mi ddwedodd y tattooist fod fy nghroen ddim yn ddigon ifanc i ddangos y siâp yn glir.
Am cheek! Erioed wedi maddau iddo.

"Wel Lowri, mae'r lle mae'n neis ond dio ddim cystal â siop 'fish and chips' mam yn Rhos"
Beth yw dy hoff lyfr?
'Tales of the City' gan Armistead Maupin
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
T Shirts Du, mae gen i gannoedd!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Weles i 'London Rd,' sef ffilm a oedd yn seiliedig ar ddrama o'r National Theatre yn wreiddiol. Roedd llawer o ffrindiau yn y ffilm, ac yn falch iawn ohonyn nhw
Dy hoff albwm?
Hounds of Love gan Kate Bush
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?
Squid gyda halen a phupur a chilli. Fish a Chips ( roedd Mam yn rhedeg shop Fish a Chips ) a Affogato - sef Hufen Ia vanilla da, hefo bisgedi wedi eu malu a shot o espresso.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Ffonio bob tro.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Neb arall i fod yn honest , yn hapus bod yn fi, ond os oes raid - Cameron Mackintosh - cynhyrchydd gorau 'r byd.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Heledd Cynwal.

Stifyn yn cyd-gyflwyno Siôn a Siân gyda Heledd Cynwal