Cytundeb ar ddyfodol Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Craig Duggan aeth i Aberystwyth ar ran Newyddion 9

Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cefnogi cynnig a allai ddiogelu dyfodol Pantycelyn fel neuadd Gymraeg.

Cafodd cynnig ei gymeradwyo nos Lun i gau'r neuadd am bedair blynedd er mwyn ei adnewyddu, cyn ei ailagor yn 2019. Bydd ystafelloedd y neuadd hefyd yn parhau'n agored i gymdeithasau a chlybiau.

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu dewis o lety tra bydd Pantycelyn yn cael ei adnewyddu. Mae'r cynnig yn cynnwys llety cyfrwng Cymraeg yn Fferm Penglais a Phenbryn o fis Medi 2015.

Ar ôl dros wythnos o feddiannu rhan o'r llety, fe adawodd grŵp o fyfyrwyr ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith y neuadd, gan ddod â'u protest i ben wedi'r cyhoeddiad.

Roedd bygythiad y byddai'r neuadd yn cau heb ymrwymiad i'w hailagor ond cafodd cyfaddawd ei lunio ar ôl trafodaethau rhwng Canghellor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae'r cytundeb hefyd yn golygu y bydd clybiau, cymdeithasau cyfrwng Cymraeg ac UMCA yn gallu defnyddio'r gofod cymdeithasol yn y neuadd, a bydd Gwasanaethau'r Gymraeg yn cael eu hadleoli i Bantycelyn.

Yn ôl Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Rhodri Llwyd Morgan, doedd y bleidlais nos Lun ddim yn unfrydol, ond "bod mwyafrif clir".

Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn gadael neuadd Pantycelyn wedi'r cyhoeddiad nos Lun

'O'r radd flaenaf ac addas i'r dyfodol'

Mewn datganiad dywedodd y Brifysgol y byddan nhw'n "llunio cynlluniau manwl i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf ac addas i'r dyfodol, ac yna'n edrych ar sut mae modd eu cymhwyso i Bantycelyn".

Ychwanegodd: "Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth Ystadau ddiwygiedig y Brifysgol; y galw am lety cyfrwng Cymraeg; y newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar Bantycelyn fel adeilad Rhestredig, a'r tebygrwydd y caiff y caniatadau angenrheidiol eu rhoi; blaenoriaethau'r Brifysgol; a'r cyllid y bydd ei angen."

"Mae'r Cyngor yn gwahodd y Tîm Gweithredu i ddatblygu briff dylunio er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf, gan gadw mewn cof y galw am lety Cymraeg nawr ac yn y dyfodol.

"Byddai'r Cyngor yn dymuno bod y briff ar gyfer y llety a'r gofod cymdeithasol hwn, a fydd yn addas am 40 mlynedd, ar gael erbyn 30 Ebrill 2016. Mae hefyd yn mynnu yr ymgynghorir yn llawn ag UMCA a'r myfyrwyr, yn ogystal â'r staff a'r gymuned ehangach, er mwyn diffinio cwmpas y llety cyfrwng Cymraeg rhagorol yma."

Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno wedyn i'r Cyngor ei ystyried, ynghyd â dyluniad clir a strategaeth i gyllido'r gwaith.

'Cam sylweddol ymlaen'

Mae UMCA wedi croesawu ymrwymiad y Brifysgol i ddyfodol Pantycelyn.

Meddai Hanna Merrigan, Llywydd UMCA: "Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymgrych i sicrhau bod Pantycelyn yn gartref i gymuned myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth. Am y tro cyntaf erioed mae'r Brifysgol wedi ymrwymo yn gadarn i gadw Pantycelyn fel neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg.

"Bydd yr ymgyrch i Achub Pantycelyn yn parhau hyd nes bydd drysau'r neuadd yn ailagor i fyfyrwyr ym Medi 2019. Yn amlwg, mae ein hymgyrch yn mynd i gymryd trywydd gwahanol yn awr, a byddwn yn cyhoeddi camau nesaf yr ymgyrych dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Bellach, y frwydr fydd i ddiffinio'r elfennau sydd yn nodweddu llety cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf ac i sicrhau bod y cynigion am y cynllun o adnewyddu yn cynnwys y rhain."

Mae staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi croesawu penderfyniad y Cyngor, gan ddweud mewn datganiad:

"Credwn fod y penderfyniad hwn, a'r buddsoddiad a ddaw yn ei sgil, yn gyfle arbennig i adfywio Pantycelyn.

"Achubwyd Pantycelyn; edrychwn ymlaen at weithio gyda'r rheolwyr, y myfyrwyr, a'r cyn-breswylwyr er mwyn cynnal a chryfhau profiad y myfyrwyr Cymraeg yn Neuadd Pen-bryn yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn Neuadd Pantycelyn o 2019 ymlaen."