Aurora Borealis yn goleuo'r awyr dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
AuroraFfynhonnell y llun, Huw James

Roedd golygfa anghyffredin i'w weld uwchben rhannau o dde Cymru nos Lun, wrth i oleuadau Aurora Borealis ddisgleirio yn yr awyr.

Roedd yr Aurora Borealis - Goleuadau'r Gogledd - i'w gweld uwchben Mynydd Rhigos a Bannau Brycheiniog nos Lun.

Dywedodd Rhian Haf o adran dywydd BBC Cymru bod y goleuadau trawiadol yn cael eu creu gan y cerrynt trydanol sydd yn atmosffer y ddaear - cerrynt sy'n cael ei greu gan yr haul.

Ychwanegodd ei bod hi'n amser da i weld y goleuadau, gan fod lefel actifedd yr haul ar ei uchaf ar hyn o bryd.

Yn 2013, cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog statws awyr dywyll, sy'n gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer ardaloedd sy'n nodedig am ansawdd eu nosweithiau serennog.

Dim ond pedwar lleoliad arall ledled y byd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yma gan y Gymdeithas Awyr Dywyll yn America.

Ffynhonnell y llun, ALlan Trow/Dark Sky Wales
Ffynhonnell y llun, Huw James
Ffynhonnell y llun, ALlan Trow/Dark Sky Wales