Gwleidyddion yn trafod cytundeb teledu y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Huw Thomas

Mae Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i alw am ddiogelu cytundeb teledu pencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad.

Ken Skates AC sy' wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale AS, i bwyso arno i sicrhau fod y bencampwriaeth yn parhau ar deledu daearol.

Mae'r cytundeb presennol gyda'r BBC yn para tan ddiwedd y gystadleuaeth yn 2017.

Dywedodd Mr Skates y gallai dyfodol rygbi gael ei niweidio petai llai o bobl ifanc yn gwylio gemau ar deledu oherwydd bod rhaid talu.

"Byddwch yn lleihau nifer y bobl sy'n gwylio'r digwyddiad dros nos, yn enwedig pobl ifanc sy'n cael eu hysbrydoli gan wylio'r gamp," meddai.

"Gallai elw ariannol tymor byr achosi niwed yn y tymor hir ar gyfer clybiau rygbi ledled Cymru allai olygu llai o aelodau."

Rhybuddiodd y gallai fod yn "beryglus ac yn niweidiol iawn" pe bai darllediadau rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu colli i sianeli lloeren.

Ystyried opsiynau

Ym mis Ionawr fe ddywedodd Prif Weithredwr y Chwe Gwlad John Feehan wrth y Daily Telegraph ei fod yn barod i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer darlledu'r bencampwriaeth, a hynny gyda BT Sport a Sky Sports yn cystadlu'n frwd yn y farchnad deledu lloeren.

Roedd adroddiadau y gallai'r cytundeb teledu nesaf fod yn werth £50m y tymor, cynnydd o 25% ar y cytundeb pedair blynedd bresennol.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r BBC wedi colli hawliau darlledu ar gyfer nifer o ddigwyddiadau chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cytundeb presennol gyda'r BBC yn para tan ddiwedd y gystadleuaeth yn 2017

O 2017 ymlaen fe fydd darllediad byw o bencampwriaeth y Golff Agored yn cael ei ddangos gan Sky yn unig, tra bod y BBC wedi rhannu'r darllediadau rasio Fformiwla 1 gyda Sky ers 2012.

Mae Sky a BT Sport yn darlledu'r holl gemau rygbi mawr eraill, gan gynnwys y Pro 12, teithiau'r Llewod a Chwpan Pencampwyr Ewrop.

Arbedion y BBC

Yn y cyfamser, mae'r BBC wedi bod drwy gyfnod o arbedion sy'n ei gwneud yn annhebygol y gallen nhw gynnig symiau fydai'n cyfateb i rai darlledwyr lloeren ar gyfer y Chwe Gwlad.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Nid oes gennym unrhyw sylwadau i'w gwneud ar hyn o bryd, nid yw'r BBC yn darparu sylwebaeth ar drafodaethau masnachol sensitif ynglŷn â hawliau cysylltiedig."

Ni fydd swyddogion y bencampwriaeth yn gwneud unrhyw sylwadau.