Ta ta Gareth a Rachael!

  • Cyhoeddwyd
Rachael a GarethFfynhonnell y llun, Rachael Solomon

Gyda dau gyflwynydd newydd rhaglenni Cyw ar S4C bellach wedi eu cyhoeddi mae dau o wynebau mwyaf cyfarwydd y gwasanaeth i blant bach yn diflannu'n dawel o'r sgrîn.

Ar ôl saith mlynedd o ddod â hapusrwydd, hwyl a heulwen i fywydau plant Cymru - a'u rhieni oedd yn rhy flinedig i wneud hynny eu hunain - mae dau gyflwynydd cyntaf y gwasanaeth, Gareth Delve a Rachael Solomon, wedi ffarwelio'n anfoddog gyda'r swydd roedden nhw "wir yn ei charu".

Gyda Rachael yn cyfadde' iddi golli deigryn a Gareth yn cyfadde' ei fod yn crinjo dros rai o'r dillad a wisgodd dros y blynyddoedd, cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo'r ddau am eu hamser efo Cyw gan ddiolch iddyn nhw am ddiddanu plant y genedl:

Ers faint ydych chi wedi gadael Cyw?

Rachael: Wnaethon ni adael ddiwedd mis Mawrth. Ond mae'n siŵr ein bod ni'n dal ar y sgrîn yn fideos y caneuon. Dwi'n meddwl fyddan ni'n dal ar y sgrîn tan tua mis Rhagfyr 'falle i roi cyfle i'r criw newydd ffilmio'r stwff maen nhw'n siŵr o fod yn ei wneud - caneuon newydd a fideos a ballu.

Gareth: Mae dal yn bosib i gael cip ohona i ar ambell eitem sy'n cael ei dangos ar Cyw ac mewn ambell gyfres fel ABC a Tŷ Cyw.

[Roedd Trystan Ellis-Morris eisoes wedi gadael cynt ac mae Einir Dafydd yn dal i gyflwyno ar hyn o bryd. Roedd y ddau wedi ymuno efo Cyw yn 2010, ar ôl Gareth a Rachael.]

Sut mae'n teimlo i edrych nôl dros eich amser gyda Cyw?

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Lansio Cyw yn Eisteddfod yr Urdd 2008

Gareth: Dwi'n falch iawn o fy amser ar Cyw (a Planed Plant Bach cyn hynny). Dwi bach yn siomedig mod i heb gyrraedd 10 mlynedd fel cyflwynydd plant (3 mis yn fyr), ond dyna yw bywyd cyflwynydd, sdim time frame i gael - unwaith ma' rhywun yn penderfynu bod angen wynebau newydd, ta ta!

Rachael: Dwi'n teimlo'n andros o lwcus o fod wedi bod yn rhan o dîm Cyw. 'Da ni wedi cael lot o hwyl dros y blynyddoedd a dwi'n teimlo'n falch iawn i mi fod yn rhan o lwyddiant y brand. Mi allai ddeud fod Gareth a fi yna ar y cychwyn cynta' a ryden ni wedi cael lot o hwyl.

Beth ydych chi'n ei gofio am y cyfnod cynnar yna? Oeddech chi'n teimlo fel eich bod yn arloesi?

Gareth: Pan wnaeth Planed Plant Bach newid i fod yn Cyw (dyna pryd wnaeth Rachael ymuno â fi), roedden ni'n hala tipyn o amser allan ar fws Cyw (sydd eisoes wedi mynd i'r fynwent bysus) yn teithio o gwmpas Cymru yn ffilmio gyda phlant.

O'n i ddim yn teimlo ein bod ni'n arloeswyr o gwbl nac yn torri tir newydd, o' ni 'mond yn 'neud ein gwaith, a dim ond nawr, wrth edrych yn ôl, dwi'n gwerthawrogi pa mor lwcus o'n ni i gael gwneud y fath beth a'i alw yn swydd!

Mae edrych yn ôl ar y diwrnodau cynnar wastad yn rhoi chuckle bach i fi, achos dwi'n cofio un tro pan oedd Rachael a fi'n paratoi i fynd mewn i'r stiwdio (stiwdio go iawn oedd e pryd hynny wrth gwrs, dim green screen) roedd ein gwisgoedd ni yn matchio - Rachael mewn melyn a phorffor a fi mewn porffor a melyn, ond yn lle mynd i newid, wnaethon ni benderfynu aros yn ein gwisgoedd a na'th y trend yma barhau am gwpwl o flynydde.

Beth o'n ni'n meddwl? Crinj!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Helo Cyw: Gareth a Rachael adeg lawnsio'r gwasanaeth newydd yn 2008

Rachael: Swydd oedd o i mi. Pan mae gen ti swydd fel 'na ti eisiau rhoi'r gorau sydd gen ti. Ro'n i wrth fy modd yna. Dwi yn gutted ei fod wedi dod i ben, dwi ddim yn mynd i ddweud celwydd am hynny.

Roedd dyddiau cynnar Cyw yn brysur iawn i mi. Roedd gen i blant ifanc ar y pryd ac ro'n i'n gadael y plant adre' i fynd i deithio o gwmpas Cymru er mwyn ffilmio efo plant eraill.

Roedd Owen, fy mab, yn 5 oed pan wnes i ddechrau ac yn meddwl mod i'n gwneud Cyw yn arbennig iddo fo. Roedd yn methu credu ymateb y plant eraill oedd yn dod ataf fi. Mi fyddai'n gofyn, "Mam, ti'n neud Cyw yn tŷ nhw hefyd?"

Oeddech chi'n disgwyl yr ymateb anhygoel gafodd y gwasanaeth?

Gareth: Mae teledu plant yn rhan fawr o dyfu fyny, a gan taw dim ond un sianel sydd gyda ni yng Nghymru roedd angen gwasaneth fyddai'n aros ym meddyliau'r plant.

Dwi'n cofio beth o'n i'n gwylio pan o'n i'n ifanc, Ffalabalam, Hafoc, Uned 5. Ond sai'n gallu enwi unrhyw beth o'n i'n wylio yn fy ugeiniau sydd yn dod â gymaint o atgofion da.

Felly 'dyw'r ymateb i lwyddiant gwasanaeth Cyw ddim yn un annisgwyl, achos roedd angen un ar y plant, rhieni a'r mamgus a'r tadcus. Wedi dweud hynny, o'n i ddim yn disgwyl creu cymaint o argraff ar y gynulleidfa fel cyflwynydd.

Rachael: Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n sylweddoli faint o effaith oedd Cyw yn ei gael ar bobl tan o'n ni'n mynd allan i'r Steddfod neu'r Sioe a chael ymateb mor, mor bositif gan y plant, y neiniau a'r teidiau, y rhieni - mae pawb wedi bod yn andros o gefnogol.

Ond wedyn dim ond un sianel sydd gennon ni yng Nghymru ac mae Cyw yn llenwi lot fawr o oriau. Roedd 'na alw mawr i ehangu'r gwasanaeth plant achos dwi 'di bod, fel llawer o rieni eraill, yn effro am chwech o'r gloch y bore yn aros i'r rhaglenni Cymraeg gychwyn - dwyt ti ddim isio iddyn nhw wylio'r Disney Channel a sianeli tebyg.

Mae CBeebies yn grêt ond ti isio iddyn nhw wylio stwff Cymraeg a ti isio cefnogi'r iaith.

Fe ddylen nhw wneud S4C 2 yn sianel ar gyfer plant. Ond o ran pres, mae'n amhosib, sydd yn biti go iawn, achos y plant ydy'r dyfodol.

Oeddech chi'n mwynhau'r holl deithio gyda Sioeau Cyw neu oedden nhw'n flinedig?

Ffynhonnell y llun, S4c

Gareth: Gwneud y sioeau byw oedd beth o'n i'n edrych ymlaen atyn nhw fwyaf bob blwyddyn. Dwi wedi 'neud cymaint o ffrindiau newydd drwy gael gweithio gydag actorion a pherfformwyr ffab.

Perfformio'n fyw yw beth dwi'n fwynhau fwyaf. Ma' nhw yn anhygoel o flinedig, ond efallai mai ni oedd ar fai am hynny, achos mae'r ochr gymdeithasol yn rhywbeth arall o'n ni'n mwynhau ar ôl diwrnod prysur yn perfformio.

Rachael: Highlight y flwyddyn i fi. Roeddan ni'n ffilmio mewn bocs gwyrdd fel arfer, lle nad oedd 'na ddim realiti o gwbl, felly roedd hi'n braf cael mynd allan a chyfarfod y rhieni a'r plant a rhoi sioe iddyn nhw.

Dydi lot o bobl ddim yn gwybod mai Gareth a fi oedd yn 'sgwennu'n Sioe 'Dolig ni a 'nathon ni 'sgwennu sioeau'r Urdd y flwyddyn diwetha'.

Gareth hefyd wnaeth gyfarwyddo'r Sioe Nadolig ddiwetha', a fi oedd yn neud yr holl goreograffi i'r caneuon... so oeddan ni'n rhoi pethe' bach ychwanegol am ei fod mor bwysig i ni. Roedden ni eisiau rhoi'r perfformiad gorau allen ni.

Roedd yn sicr yn llafur cariad i ni - roedden ni wir yn caru'r swydd.

Sioe 'Dolig Cyw 2014 oedd yr olaf i chi felly?

Gareth: Ie, Sioe 'Dolig 2014 oedd fy sioe olaf i, a'r sioe dwi fwyaf balch ohoni achos yn ogystal â chael bod yn rhan o'r sioe, Rachael a fi wnaeth ysgrifennu'r sioe a nes i hefyd ei chyfarwyddo.

O'r holl sioeau Cyw dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw, dyma'r un wnes i ei fwynhau fwyaf - a nes i'n siŵr bo' fi'n mynd i fwynhau achos ynghanol yr ymarferion gethon ni'r newyddion bod Cyw am chwilio am gyflwynwyr newydd, felly 'o ni'n gwybod taw Sioe 'Dolig 2014 fyddai'r un olaf. Out with a BANG yndyfe!!

Rachael: Roedden nhw wedi rhoi gwybod i ni ein bod yn gadael yn ystod yr ymarfer ar gyfer y sioe ac yn amlwg roedden ni i gyd yn drist ac wedi cael dipyn bach o sioc, ond dyma ni'n meddwl, wel o leia rydan ni'n gwybod ac mi allwn ni fynd allan a mwynhau'r sioe yma. A dyna be' wnes i.

Nes i grïo wrth wneud fy sioe ola' i efo Gareth. Ro'n i'n ypset iawn a ddim yn gwybod a fyddwn i'n perfformio efo fo eto - roedden ni fel teulu.

Cyn rhaglenni plant roedden ni'n dy adnabod di Gareth fel aelod o'r band roc trwm Mattoidz a ti Rachael fel aelod o Eden. Sut wnaethoch chi'r trawsnewidiad i fod yn gyflwynwyr plant?

Gareth: Efallai bod y ddau rôl yn edrych yn hollol wahanol ar yr wyneb ond i fod yn onest ma 'na bethau sy'n debyg. Perfformio yw'r ddau rôl.

Er bod y gynulleidfa yn wahanol o ran oedran, mae'r ddau'n ymddwyn yn debyg iawn, rhai yn gwrando a mwynhau, rhai yn anwybyddu'n llwyr, rhai yn llefen, ambell un yn trio'i gorau i ymuno â ni ar y llwyfan a rhai yn mynd yn sâl dros eu dillad eu hunain (er, i fod yn deg, yn y gigs ma 'na'n digwydd fwyaf).

Rachael: Ro'n i wedi gwneud cyfresi fel Hotel Eddie a Noc Noc ac wedi cyflwyno, felly mi oeddwn i wedi cyflwyno rhaglenni plant yn barod. Mae Meithrin yn wahanol i raglenni plant hŷn fel Planed Plant a Stwnsh ond dwi'n meddwl i mi gael y swydd achos mod i'n fam ifanc.

Roedd hynny yn help achos o'n i'n mynd i'r gwaith ac yn meddwl be' i'w roi yn y sgript heddiw? Doedd gen i ddim syniad o gwbl ond fyswn i'n edrych ar y plant yn chwarae neu'n dod adre' o'r ysgol efo ryw fath o waith cartre' ac yn trio rhoi hwnna mewn i'r sgript. Mae plant wedyn yn gwylio'r eitem ac yn cofio ei wneud yn yr ysgol neu adre'.

Ydych chi bob amser yn hapus?!

Gareth: Wel dwi ddim yn mynd yn grac yn aml, dwi'n gallu bod yn grumpy weithiau, ond rhan fwyaf o'r amser, ydw, dwi'n hapus. Dwi'n fwy direidus na fydde' chi'n ddisgwyl, dim cweit mor clean cut â "Gareth CYW"; ma bois Mattoidz yn cymharu fi o hyd i Krusty the Clown o'r Simpsons.

Rachael: Dwi'n meddwl mod i ond dwi'n meddwl 'falle fod Iolo, fy ngŵr, yn anghytuno. Mae o'n deud mod i'n defnyddio fy ngwên i gyd yn y gwaith! Tynnu coes mae o!

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr Cyw yn hedfan o'r nyth

Beth nesa' i Cyw?

Gareth: Downhill nawr ;-)

Rachael: Dwi'n gobeithio bydd Cyw yn dal yn llwyddiant. Maen nhw'n cyflwyno Catrin a Huw yn ara' bach ac mi fyddan ni jyst yn mynd oddi ar y sgrîn - mae plant yn derbyn hynny yn dydyn?

Dwi'n gobeithio bydd y cyflwynwyr newydd yn cael gymaint o hwyl ag y mae Gareth a fi ac Einir a Trystan wedi ei gael achos mae'n job wych ac mi faswn i'n hoffi dweud wrthyn nhw am wneud y mwya' ohoni.

Ond faswn i 'di bod yna tan o'n i'n 90, ac mi fase Gareth hefyd, achos roedden ni wrth ein boddau yna.

Ond roeddan nhw eisiau wynebau newydd, a dwi'n deall hynny achos ma petha' dros y blynyddoedd yn newid ac mae angen iddyn nhw newid. Dwi 'di bod yn sefyllfa Catrin Herbert ac mae o'n anodd ond dyna be' maen nhw'n 'neud i gadw'r peth yn ffresh siŵr o fod.

Beth nesa' i chi?

Gareth: Dwi ar hyn o bryd yn gweithio fel ymchwilydd ar gyfres newydd Wynne Evans fydd yn cael ei darlledu yn y flwyddyn newydd ac yn mwynhau mas draw. Ond dwi heb droi fy nghefn ar berfformio'n gyfan gwbwl. Gobeithio yn y dyfodol ga'i gyfle i chwarae rôl arall, boed ar raglenni plant neu oedolion.

Rachael: Dwi'n ymchwilio ar hyn o bryd ar raglen Codi Canu - sy'n mynd allan efo Cwpan Rygbi'r Byd - felly rhywbeth hollol wahanol i Cyw ond rydw i yma tan ddiwedd mis Hydref tra dwi'n meddwl am lle dwi isio mynd, be' dwi isio'i wneud, achos perfformio dwi'n rili rili licio'i 'neud.

Gobeithio daw rhywbeth ac y galla i wneud rhywbeth efo Gareth eto, fysa hynny'n ffab, ond gawn ni weld. Duw a ŵyr lle fydda i flwyddyn nesa'! Ond fyswn i'n hollol gutted os na faswn i'n perfformio.

Hoff gân Cyw?

Gareth: Mae'r cwestiwn yma'n un anodd. Mae pob un o ganeuon Cyw yn byw'r un cylch bywyd: hoffi'r gân, joio'r gân, blino ar y gân, casáu'r gân, hoffi'r gân. A gan bo' 'da fi ddwy ferch (Anna sy'n 6 a Loti sy'n 3) sy'n mynnu gwrando ar ganeuon Cyw yn y car, ma'r caneuon yn byw yn y categori 'casáu'r gân' am amser hir iawn.

Ond, y foment hon, fy hoff gân Cyw yw ... Cân y Sŵ ... nage... Cân y Tywydd ... o sai'n gwybod. Aaaaaargh!! Cân y Trychfilod (achos fi wnaeth gyfarwyddo'r fideo ac Anna yw'r pili pala yn y fideo).

Rachael: Mae Steffan Rhys sy'n 'sgwennu'n caneuon ni yn brilliant - maen nhw i gyd mor catchy ond dwi'n meddwl mai fy hoff un i ydy'r gân Yn Yr Ysgol, achos y rwtîn. Roedden ni'n cael gymaint o sbort pan oedden ni'n mynd off ar ryw brynhawn dydd Gwener ac o'n i'n dysgu'r tri arall sut i 'neud y rwtîns - roedd gwylio Trystan yn trio dysgu'r un yna yn gymaint o hwyl!

Gareth a Rachael - yng ngeiriau un o'ch caneuon eich hunain - "Diolch!"

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol