Oriel luniau o fro'r Eisteddfod // Montgomeryshire in pictures

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n mynd i fro'r Eisteddfod ym Maldwyn eleni? Dyma gyfle i ddarganfod mwy am y Canolbarth a chael cipolwg ar rai o'r golygfeydd godidog fydd yn eich disgwyl.

Mae mwy am hanes, tirlun, diwylliant, adeiladau ac enwogion Maldwyn ar gael yn ein taith arbennig.

If you're heading to this year's National Eisteddfod, here's a taste of what magnificent Montgomeryshire has to offer beyond the festival site.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Fel yn 2003, mae'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal ar Faes Mathrafal. Dyma leoliad prif lys hen dywysogion Powys hyd at y drydedd ganrif ar ddeg. Daeth yn enw ar un o dair talaith farddol Cymru.

Mathrafal, just outside Meifod, is the location for this year's National Eisteddfod. It was the original capital of the Kingdom of Powys, one of the three royal seats in Wales.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Mae Pistyll Rhaeadr tu allan i Lanrhaeadr ym Mochnant yn un o saith rhyfeddod Cymru. Yn 150 troedfedd, mae'n uwch na Niagra.

Near the tranquil village of Llanrhaeadr-ym-Mochnant, this spectacular waterfall is one of the 'Seven Wonder of Wales'.

Ffynhonnell y llun, Craig Easton

Adfeilion Castell Trefaldwyn a gymerodd le'r hen gastell mwnt a beili a godwyd yn wreiddiol yn y 1070au gan Roger de Montgomery. Erbyn 1105 roedd y castell yn nwylo Baldwin de Boulers - sef y dyn a roddodd yr enw Cymraeg i Drefaldwyn.

In 1267 Montgomery was the meeting place for treaty negotiations, where King Henry III granted Llywelyn ap Gruffydd the title of prince of Wales. Fifteen years later in December 1282 the army of Montgomery marched from here to Builth Wells to surprise and kill Llywelyn.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Yn nhyb llawer, Llyn Efyrnwy ydi'r prydferthaf yng Nghymru. Adeiladwyd yr argae - y cyntaf o'i fath yn y byd - yn y 1880au gan foddi hen bentref Llanwddyn. Pan mae'r dŵr yn isel, gallwch weld meindwr yr eglwys o hyd.

Built in the late 19th century to supply drinking water to Merseyside, Lake Vyrnwy still provides nearly 60 million gallons a day to the area. In particularly dry summers, it's said that you can see the remains of the old village of Llanwddyn which was submerged during the building of the dam.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Yn ei hanterth, camlas Maldwyn oedd traffordd y Gororau, yn cludo calch o Lanymynech i'r Trallwng a'r Drenewydd, a thros y ffin i Loegr. Erbyn heddiw mae wedi'i hadnewyddu at ddefnydd hamdden.

The 'Monty' was a working waterway until the First World War. Today, it continues to be sensitively restored and is a haven for wildlife.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Argae Llyn Clywedog, a godwyd yn y chwedegau, yw'r uchaf ym Mhrydain. Mae'n chwe milltir a hanner o hyd a 237 troedfedd o uchder.

Clywedog dam holds back around 11,000 million gallons of water. That's equivilent to 550 million baths!

Ar y lawnt o flaen Plas Machynlleth fe welwch gofeb i Owain Glyndŵr. Codwyd y gofeb yn 2004 i nodi 600 mlynedd ers i Owain Glyndŵr gael ei goroni yn Dywysog Cymru a chynnal ei Senedd yn y dref.

This memorial to Owain Glyndŵr in the grounds of Plas Machynlleth marked 600 since his coronation and the setting up of the first Welsh Parliament at Machynlleth in 1404.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Mae Ffordd Glyndŵr yn ymdroelli am 123 milltir drwy Drefaldwyn a Maesyfed o Drefyclo i Fachynlleth.

Glyndŵr's Way National Trail offers some of Mid Wales's finest scenery, begining in Knighton then crossing Wales to Machynlleth and back again in a giant horse-shoe to Welshpool.

Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust

Mae gwarchodfa Cors Dyfi ger Machynlleth yn gartref i deulu o weilch prin sy'n dychwelyd yn flynyddol o Affrica.

Nora, pictured, was the first osprey to lay eggs in the Dyfi valley in over 400 years.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Yn ôl y chwedl cuddiodd Melangell ysgyfarnog ym mhlygiadau ei chlogyn wrth iddo gael ei hel gan gŵn y Tywysog Brochwel. Gwnaeth harddwch a dewrder y ferch ifanc gymaint o argraff ar y tywysog fel y rhoddodd iddi'r tir lle saif yr eglwys yma heddiw.

St Melangell's Church has been a place of pilgrimage since at least the 10th century. According to legend, the land was given to Melangell by Prince Brochwel whose hounds refused to kill a hare being protected by her.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Erbyn heddiw, mae rheilffordd fach y Trallwng a Llanfair yn cynnal gwasanaeth twristaidd poblogaidd. Pan agorwyd y lein ym 1903 y bwriad oedd cysylltu tref farchnad Y Trallwng â chymuned gwledig Llanfair Caereinion.

The Welshpool & Llanfair Light Railway opened in 1903 to link the market town of Welshpool to the rural community of Llanfair Caereinion.

Ffynhonnell y llun, Tŷ Gregynog

Prynwyd Tŷ Gregynog gan Gwendolyn a Margaret Davies ar ddechrau'r 20fed ganrif. Yn ogystal â bod yn gasglwyr brwd o baentiadau a darluniau, sefydlodd y chwiorydd Davies wasg argraffu a gŵyl gerdd flynyddol ar y safle.

Gregynog is the former home of sisters Gwendoline and Margaret Davies who amassed one of the great British art collections of the 20th century.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru

Roedd y barcud coch yn aderyn prin ar un adeg ond cafodd lonydd i fagu ar fynyddoedd anghysbell Maldwyn ac erbyn hyn adnabyddir rhannau o'r canolbarth fel 'Ardal y Barcud'.

Once on the brink of extinction, the red kite is now one of the most common large birds in the skies above Mid Wales. For guaranteed sightings, you can watch them feed at Gigrin Farm near Rhayader.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

More news and stories from the National Eisteddfod 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol