Ar daith o gwmpas Sir Drefaldwyn

  • Cyhoeddwyd
Ffordd GlyndŵrFfynhonnell y llun, Croeso Cymru

Mae Sir Drefaldwyn yn ardal gyfoethog - o ran tirlun, diwylliant, adeiladau ac enwogion. Y cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu Mererid Wigley sy'n eich tywys o amgylch yr hen sir lle cafodd hi eu magu.

Mwynhewch mwy o luniau Maldwyn yn ein oriel arbennig.

O fewn tafliad carreg i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, mae safle llys enwog Owain Glyndŵr. Er mai ychydig iawn sydd i'w weld o Sycharth, sydd ar ochr y B4580 o Lansilin i Langedwyn a Phen-y-bont Fawr, roedd y codiad tir lle safai'r llys ei hun yn galon i bentref prysur, mae'n debyg, gydag efail, melin, llys cyfraith a llynnoedd magu pysgod o'i amgylch.

Un rhyfeddod sydd i'w weld o hyd yw Pistyll Rhaeadr y tu allan i Lanrhaeadr ym Mochnant. Yn 80 metr, dyma raeadr uchaf Cymru ac mae'n un o'n saith rhyfeddod, golygfa sy'n synnu ac yn swyno ymwelwyr gyda'i harddwch. Yn Llanrhaeadr ym Mochnant hefyd y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg.

Ymhellach i fyny'r cwm, mae Pennant Melangell. Melangell oedd y santes a achubodd ysgyfarnog rhag cŵn hela Brochfael Ysgithrog, Tywysog Powys, drwy adael iddi lochesu dan ei gwisg. Fe gysegrwyd eglwys Llanfihangel y Pennant iddi. Ai hi tybed oedd bunny girl cyntaf Cymru?!

Yn yr ardal hon hefyd mae Llyn Efyrnwy neu Lyn Llanwddyn, llyn a grewyd yn yr 1880au drwy foddi pentref o 400 o bobl. Mae'n debyg mai £5 o iawndal yn unig a dalwyd i'r rheiny a gollodd eu cartrefi.

Er y cefndir trist, mae erbyn heddiw yn ardal gadwraethol bwysig ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Mi allwch chi dreulio pnawn hyfryd yn cerdded neu feicio'r 13 milltir o amgylch y llyn.

Wrth anelu yn ôl at faes yr Eisteddfod, mae fferm Dolwar Fachyn Llanfihangel yng Ngwynfa, cartref yr emynyddes enwog, Ann Griffiths.

Atyniad mwyaf mawreddog ardal y Trallwng ydi Castell Powis. Cynlluniwyd y gerddi terasog gan bensaer o Gymru, William Winde.

O'r Trallwng, mae rheilffordd fach yn rhedeg am wyth milltir i Lanfair Caereinion, ac mae teithio ar y trên bach yn ffordd braf i weld rhai o olygfeydd hyfryd y sir.

Er gwaethaf ei henw, mae'r Drenewydd yn dyddio'n ôl i'r ddegfed ganrif. Un o ddynion mawr y dref oedd Pryce Jones, perchennog busnesau, llawer ohonynt yn gysylltiedig â'r diwydiant gwlân a nyddu, a dyfodd yn y 19eg ganrif. Yn y Drenewydd dechreuodd y gwasanaeth Mail Order cyntaf yn y Deyrnas Unedig, a hynny o ganolfan Pryce Jones, sydd ar hyn o bryd ar werth. Un arall o ddynion y dref a ddaeth i amlygrwydd oedd Robert Owen. Dyma'r gŵr fu'n gyfrifol am sicrhau telerau tecach i weithwyr cyflogedig.

Bum milltir o'r Drenewydd mae Plas Gregynog, cartref y ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies, a gyfrannodd yn aruthrol at gasgliadau celf Cymru. Fe sefydlodd y ddwy wasg Gregynog sy'n enwog am ei hargraffwaith gain, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe gytunodd y ddwy i droi'r Neuadd yn gartref gwella i filwyr oedd wedi'u hanafu.

Wrth deithio i'r gorllewin o'r Drenewydd, fe ddewch hefyd i gartref ysbrydol gwraig lwyddiannus arall. Yng Ngharno y sefydlodd Laura Ashley ei chwmni dillad sy'n enwog ledled y byd.

Tref farchnad ydi Llanidloes hefyd, un oedd eto'n brysur iawn pan oedd y diwydiant gwlân yn ei anterth. Hynodrwydd penna'r dref yw'r hen neuadd farchnad sydd reit ynghanol y brif ffordd drwy'r dref. Roedd gyrrwyr lorïau yn fflamio'r lle i'r cymylau cyn i'r ffordd osgoi gael ei hadeiladu, ond mae'n adeilad hyfryd, llawn cymeriad.

Nid nepell o'r dref, mae argae Llyn Clywedog. Boddwyd tai a thiroedd y dyffryn i adeiladu'r gronfa yn yr 1960au, eto i ddiwallu anghenion Lloegr am ddŵr. Erbyn heddiw, fel Llyn Llanwddyn, mae'n atynfa i ymwelwyr, hwylwyr a physgotwyr.

Wrth ddilyn y ffordd fynyddig o Benfforddlas, drwy Dylife, i lawr tuag at Fachynlleth, fe ddewch chi at gofeb i'r teithiwr a'r newyddiadurwr, Wynford Vaughan-Thomas. Yma, mae'n debyg, oedd ei hoff lecyn, ac, ar ddiwrnod clir a braf, mae'n olygfa heb ei churo. Yn ogystal â bryniau mwyn Bro Ddyfi o'ch blaen, mae modd gweld mynyddoedd Pumlumon, Cadair Idris, yr Wyddfa ac hyd yn oed i lawr at y môr yn y Bermo a phellafion Pen Llŷn.

Rydym yn gorffen y daith, fel y dechreuom, gyda chysylltiad a dylanwad Owain Glyndŵr. Yn nhref Machynlleth, gyda'i chloc adnabyddus a'i stryd llydan urddasol, y ffurfiodd Glyndŵr ei Senedd ym 1404.

Erbyn hyn, mae'r hen senedd-dy yn ganolfan wybodaeth ac yn gartref i siop nwyddau Cymraeg a chaffi hyfryd i dreulio awr neu ddwy.

Mae'r daith hon wedi bod yn un sydyn, ond i fwynhau mwy o ogoneddau Sir Drefaldwyn, ei thirlun a'i phobl, dwi'n awgrymu ymlwybro ar rannau o Lwybr Glyndŵr, llwybr 132 milltir a agorwyd yn swyddogol yn 2002 i'ch tywys i ardaloedd a safleoedd â chysylltiadau cryf ag ardal Owain.

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol