Dyn wedi marw wedi digwyddiad Penrhyn Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
Bae'r Tri ChlogwynFfynhonnell y llun, Christine Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fae'r Tri Chlogwyn

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn 42 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ym Mae'r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14:10 brynhawn ddydd Sadwrn.

Y gred yw bod y dyn wedi mynd i drafferthion yn y dŵr, a bu farw yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.

Cafodd dau berson arall eu cludo i'r ysbyty ond nid yw eu bywydau mewn perygl.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101.