Cadarnle y Blaid Lafur?

  • Cyhoeddwyd
Meysydd glo ar y chwith, y map etholaethol yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015 ar y ddeFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Meysydd glo ar y chwith, y map etholaethol yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015 ar y dde

Yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl y Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2015, cafodd y map hwn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe ymddangosodd y map yn gyntaf ar gyfrif Twitter Vaughan Roderick, dolen allanol ac mae'n awgrymu bod yna gysylltiad cryf yn dal i fodoli rhwng y meysydd glo a chefnogaeth i'r Blaid Lafur.

Mae'r Dr Ben Curtis o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn asesu arwyddocâd y map a'r berthynas rhwng maes glo'r de a rhai o gadarnloedd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Seiliau ar lo

Cafodd de Cymru ei hadeiladu ar lo, yn ddaearegol a hanesyddol. Nid gorliwio yw dweud mai'r diwydiant glo oedd y prif reswm am fodolaeth rhan helaeth o'r de Cymru fodern.

Yn ogystal â threfi a phentrefi'r Cymoedd gafodd eu siapio gan y diwydiant, mae Caerdydd, Y Barri, Casnewydd ac (i raddau llai) Abertawe i gyd yn ddyledus am y cyfoeth a'r statws ddaeth yn sgil y fasnach lo.

Ar ei anterth ar ddechrau'r G20, roedd y diwydiant glo yn ne Cymru yn cyflogi tua 270,000 o lowyr.

Yn 1913, roedd y maes glo yn cynhyrchu 57 miliwn o dunelli o lo y flwyddyn. Ar yr un adeg, Caerdydd a'r Barri oedd y porthladdoedd allforio glo prysuraf yn y byd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dociau Caerdydd ar eu hanterth ar ddechrau'r G20

Dylanwad gwleidyddol

Roedd maint a dylanwad y diwydiant glo yn arwyddocaol i wleidyddiaeth y rhanbarth.

Mae'n bosib olrhain y berthynas agos rhwng Llafur ac etholaethau'r Cymoedd yn 1900, pan gafodd Keir Hardie ei ethol fel AS dros Ferthyr Tudful.

Ychydig o flynyddoedd wedyn gwnaeth Ffederasiwn Glowyr De Cymru (FfGDC) y penderfyniad allweddol i ffurfio cysylltiad swyddogol gyda'r Blaid Lafur.

O gofio pa mor enfawr oedd FfGDC a'i arwyddocâd cymdeithasol yn y cymunedau glofaol, mae'n bosib dadlau mai hwn oedd y trobwynt allweddol yn ffawd y Blaid Lafur yn ne Cymru.

Yn dilyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918 cafodd y rhan fwyaf o ddynion a rhai menywod y bleidlais am y tro cyntaf, ac o'r herwydd tyfodd y gefnogaeth i Lafur yn gyflym.

Erbyn 1922, roedd pob un o'r 16 etholaeth seneddol yn y maes glo wedi ethol Aelodau Seneddol Llafur - sefyllfa sydd wedi parhau, i bob pwrpas, tan y cyfnod modern.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd buddugoliaeth Keir Hardie yn etholaeth Merthyr Tudful yn 1900 yn drobwynt i'r Blaid Lafur yng Nghymru

Dylanwad Llafur yn cryfhau

O'r 1920au ymlaen roedd gafael Llafur ar wleidyddiaeth maes glo de Cymru yn eithriadol o rymus. Yn Etholiadau Cyffredinol y 20au a'r 30au doedd hi ddim yn anarferol i ymgeiswyr seneddol Llafur gael eu hethol yn ddi-wrthwynebiad oherwydd nad oedd yna wrthblaid gredadwy.

Pan wnaeth pleidiau eraill sefyll, cafodd ymgeiswyr Llafur eu hethol gyda mwyafrifoedd anferth o dros 20,000 - weithiau, gyda dros 80% o gyfanswm y pleidleisiau.

Mewn rhai ardaloedd fel y Rhondda yn ystod y 30au, y Blaid Gomiwnyddol oedd yr unig wrthblaid effeithiol i Lafur.

Hyd yn oed yn Etholiad Cyffredinol 1931 pan gollodd Llafur gefnogaeth sylweddol, yn dilyn y penderfyniad i sefydlu Llywodraeth Genedlaethol, fe wnaeth ardaloedd glofaol y de barhau yn deyrngar i Lafur ac ethol 16 o'u cyfanswm o 46 yn San Steffan.

Heb gefnogaeth de Cymru a meysydd glo eraill Prydain mae'n anodd gweld sut y byddai Llafur wedi goroesi crasfa mor drychinebus.

Ar ôl i Lywodraeth Lafur Clement Attlee sefydlu'r Wladwriaeth Les yn 1945 fe ehangodd y gefnogaeth i'r blaid yng Nghymru tu hwnt i'w chadarnloedd. Erbyn 1966, roedd ASau Llafur yn cynrychioli 32 o 36 o etholaethau seneddol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aneurin Bevan (Glyn Ebwy) ymhlith Aelodau Seneddol Cymru Llafur fyddai'n cael eu hail-ethol yn rheolaidd gyda mwyafrif sylweddol

Teyrngarwch

Yn ail hanner y G20 cymysg oedd canlyniadau'r blaid Lafur yng Nghymru. Roedd yna ganlyniadau ysgubol yn 1966 a 1997 o'u cymharu â chanlyniadau gwael fel Etholiad Cyffredinol 1983.

Er hynny, parhaodd y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru yn gryfach nag yng ngweddill Prydain. Roedd 'na sawl ffactor am hyn ond y rheswm canolog oedd y gefnogaeth yng nghadarnleoedd maes glo'r de.

Beth felly yw'r rhesymau am deyrngarwch etholwyr cymunedau glofaol y de i'r blaid Lafur?

I raddau helaeth roedd dylanwad anferthol Ffederasiwn y Glowyr a'i aelodaeth yn allweddol wrth i'r diwydiant glo barhau i fod yn un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth.

Mae streiciau ac anghydfodau diwydiannol hanner cynta'r G20 hefyd wedi ei gwneud hi'n haws i etholwyr dosbarth gweithiol uniaethu gyda Llafur a chefnogi polisïau'r blaid.

Traddodiad

Er bod dylanwad y diwydiant glo wedi dirywio yn ail hanner G20 fe barhaodd y gefnogaeth i Lafur. Pam? Mae hwn yn bwnc cymhleth.

Fodd bynnag, rhan allweddol o'r ateb yw bod etholwyr yn y cymunedau glofaol wedi dod i'r arfer â phledleisio Llafur fel y blaid maen nhw'n gredu fyddai'n gwneud y gwaith gorau o gynrychioli eu buddiannau.

Mae'r safbwynt yma yn cael ei or-symleiddio yn aml gyda rhai sylwebwyr yn awgrymu y "byddai pobl y Cymoedd yn ethol ci petai'n gwisgo bathodyn y Blaid Lafur".

Ond rwy'n credu mai'r pwynt sylfaenol yn y fan hyn yw bod y deyrngarwch sy'n parhau i'r Blaid Lafur yn y Cymoedd wedi ei seilio yn rhannol ar draddodiad ac yn rhannol gan eu bod yn uniaethu gyda'r dosbarth gweithiol.

I raddau hefyd mae pledleisio i Lafur wedi ei blethu gyda diwylliant poblogaidd a hunaniaeth yn y rhanbarth. Mae rhai haneswyr wedi cyfeirio at boblogaeth meysydd glo de Cymru fel 'pobl Llafur'.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd streic fawr y glowyr 1984/85 yn help i atgyfnerthu'r berthynas rhwng y cymunedau glofaol a'r Blaid Lafur

Dirywiad y pyllau glo

Roedd y broses o gau'r pyllau glo yn yr 80au yn tanlinellu ymhellach y safbwynt poblogaidd oedd yn bodoli yn y Cymoedd o Lafur yn ein cynrychioli 'ni' a'r Ceidwadwyr yn eu cynrychioli 'nhw'.

Yn yr 80au cynnar cafodd graffiti ei baentio ar bont reilffordd yn Nelson yng Nghwm Rhymni gyda'r geiriau 'We voted Labour, we got Thatcher'.

Mae'n rhaid bod y datganiad hwn wedi taro deuddeg gyda'r farn gyhoeddus yn yr ardal gan bod y slogan wedi cael aros yn ddigon hir fel ei bod hi wedi bod yn bosib i gyfnewid enw 'Thatcher' am 'Major' ar ôl Etholiad Cyffredinol 1992!

Ond dyw hyn ddim yn golygu y bydd y Cymoedd yn gaer gadarn i Lafur am byth. Mae 'na enghreifftiau penodol ble mae dylanwad y Blaid Lafur wedi wynebu her fawr.

Er enghraifft, enillodd Plaid Cymru is-etholiad Caerfyrddin yn 1966. Roedd gorllewin yr etholaeth yn cynnwys rhan o'r maes glo. Daeth Plaid Cymru hefyd yn agos at gipio Gorllewin Rhondda yn 1967 a Chaerffili yn 1968.

Yn fwy diweddar, yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999, fe gipiodd Plaid Cymru seddi Rhondda ac Islwyn.

Rhaid nodi, fodd bynnag, bod pob un o'r etholaethau yma, maes o law, wedi ail-afael yn eu ffyddlondeb i'r Blaid Lafur.

Nid gwers hanes mo hon. Ddylen ni ddim anghofio bod y Cymoedd yn dal i chwarae rhan allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Maen nhw, er enghraifft, yn ffurfio sylfaen gadarn i'r Llywodraeth Lafur sy'n rheoli ym Mae Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Llafur - plaid sydd wedi bod wrth y llyw yn y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999

Datblygiadau newydd

O safbwynt y Cymoedd, un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn Etholiad Cyffredinol 2015 (a phryderus, yn dibynnu ar eich safbwynt gwleidyddol) yw twf UKIP.

Mewn sawl etholaeth yn y Cymoedd, er bod Llafur wedi dod i'r brig yn ôl eu harfer, daeth UKIP yn ail.

Er eu bod nhw yn arddel syniadau adain dde, rwy'n credu mai rhan o'r rheswm iddyn nhw ennill gymaint o gefnogaeth oedd eu bod wedi llwyddo i fanteisio ar y teimlad ymhlith pobl nad yw Llafur bellach yn eu cynrychioli.

Mae'n rhy gynnar eto i ddweud os yw dylanwad gwleidyddol hir-hoedlog Llafur yn y Cymoedd mewn argyfwng neu mewn cyfnod o ddirywiad hir-dymor.

Ond mae un peth yn bendant - mae'r cysylltiad rhwng Llafur ac ardal meysydd glo y de wedi bod yn ganolog i wleidyddiaeth a diwylliant Cymru am dros ganrif.

Er bod y 'Brenin Glo' wedi cael ei ddi-orseddu mae hi'n debyg y bydd datblygiadau yn y Cymoedd yn parhau i gael dylanwad sylweddol ar wleidyddiaeth Cymru yn y G21.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Kinnock, mab y cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock, ymhlith y genhedlaeth newydd o Aelodau Seneddol sy'n cadw'r traddodiad Llafur yn fyw yn hen ardaloedd glofaol de Cymru yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015