Newidiadau mawr i'r cwricwlwm cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog addysg wedi cyhoeddi ei fod yn dechrau'r broses o gyflwyno newidiadau sylweddol i'r cwricwlwm addysg yng Nghymru.
Fe wnaeth Huw Lewis AC dderbyn pob un o'r 68 o argymhellion mewn adolygiad gan gyn prif arolygydd ysgolion yr Alban, yr Athro Graham Donaldson, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Cyhoeddodd y bydd yn sefydlu Grŵp Cynghori Annibynnol er mwyn ystyried y ffordd orau o gyflwyno newidiadau, a bydd yr Athro Donaldson yn cadeirio'r grŵp.
Yn ei adroddiad fe ddywedodd yr Athro Donaldson y dylid rhoi mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg ac ar feithrin sgiliau digidol.
Ategodd y dylai ysgolion gael mwy o ryddid i wneud gwersi yn fwy perthnasol, er y bydden nhw'n parhau i ddilyn cwricwlwm craidd.
Mae'r Athro Donaldson hefyd yn argymell cael gwared ar y pedwar cyfnod sylfaen sy'n ffurfio llwybr disgyblion drwy'r ysgol ar hyn o bryd. Yn hytrach, mae angen ceisio creu "taith barhaus i blant wrth iddyn nhw fynd o un flwyddyn i'r llall", meddai.
Wyth mlynedd
Mae argymhelliad arall i roi mwy o bwyslais ar y Gymraeg i sicrhau bod disgyblion yn sylweddoli nad pwnc arall i'w astudio'n unig yw'r iaith.
Ac yn ôl yr Athro Donaldson mae angen cyflwyno ffordd o ddysgu sgiliau digidol ym mhob gwers.
Wrth i Huw Lewis dderbyn argymhellion yr Athro Donaldson yn eu cyfanrwydd, mae 'na awgrym y gallai gymryd hyd at wyth mlynedd i unrhyw newidiadau ddod i rym.
Mae undeb athrawon yr NUT wedi croesawu'r cyhoeddiad, gyda'u swyddog polisi yng Nghymru, Owen Hathway yn dweud:
"Rydym yn croesawu'r ffaith bod y gweinidog wedi derbyn argymhellion adolygiad Donaldson yn llawn.
"Bydd hynny'n newid mawr o'r ffordd y mae'r cwricwlwm wedi gweithio, nid yn unig yn y modd y mae athrawon yn gwneud eu gwaith ond hefyd sut y mae awdurdodau lleol Estyn a Llywodraeth Cymru'n ymddwyn."
Er yn croesawu'r cyhoeddiad gan Mr Lewis, dywedodd Aled Roberts AC ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
"Fe ddylen ni fod yn ymwybodol bod geiriau cynnes gan weinidogion Llafur ddim bob tro yn arwain at weithredu cadarn. Bydd gweithredu'r adolygiad yn cymryd amser, ond fe fyddwn yn parhau i graffu ar y broses i sicrhau'r canlyniad gorau i ddisgyblion ac athrawon."
Pryder iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r cyhoeddiad. Dywedodd llefarydd y gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
"Mae'n edrych fel bod y Gweinidog yn dal i geisio gwella system sy'n fethiant llwyr ac sy'n amddifadu mwyafrif helaeth ein pobl ifanc o'r Gymraeg.
"Yr hyn sydd angen iddo wneud yw gwrando ar yr hyn mae'r holl arbenigwyr yn dweud sef bod angen terfynu Cymraeg Ail Iaith a symud at drefn gyda pheth o addysg pawb yn gyfrwng Cymraeg. Dyna'r ffordd i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith i bawb yn ein gwlad.
"Roedd geiriau'r Gweinidog dim ond ychydig wythnosau yn ôl yn awgrymu bod y Llywodraeth wedi gwrando ar ein pryderon a sylwadau'r arbenigwyr.
"Byddai'n destun pryder pe bai e'n gwneud tro-pedol ar ei eiriau e a geiriau'r Prif Weinidog drwy gicio'r mater i'r glaswellt hir unwaith eto."