Dic Penderyn: Cyflwyno desieb yn gofyn am bardwn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Dic Penderyn
Disgrifiad o’r llun,

Y plac tu allan i Lyfrgell Merthyr

Mae deiseb yn gofyn am bardwn swyddogol i Dic Penderyn wedi ei chyflwyno i'r llywodraeth.

Cafodd Richard Lewis, (Dic Penderyn) ei grogi yng Nghaerdydd ar ôl cael ei gyhuddo o anafu milwr yn ystod gwrthryfel Merthyr yn 1831.

Wrth gyflwyno'r ddeiseb yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Aelod Seneddol Cwm Cynon Ann Clwyd bod yna "deimlad cryf" yng Nghymru ei fod wedi ei ddienyddio ar gam a bod angen clirio ei enw.

Y Gweinidog Cyfiawnder Michael Gove fydd yn penderfynu gwneud hynny neu beidio.

Cafodd Dic Penderyn - sy'n cael ei alw'n arwr y werin a merthyr cyntaf y dosbarth gweithiol - ei arestio a'i gyhuddo o drywanu Donald Black wrth i filwyr geisio tawelu torf o brotestwyr yn ystod Gwrthryfel Merthyr ym 1831.

Ffynhonnell y llun, Dewi Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Dic Penderyn cyn cael ei grogi yng Nghaerdydd - darlun gan Dewi Bowen

Cychwynnodd y protestio oherwydd cyflogau isel, dyled ac amodau gweithio ofnadwy yng ngweithfeydd haearn a phyllau glo cymoedd y de.

Ar ôl cael dedfryd i'w grogi, casglwyd 11,000 o enwau ar ddeiseb ym Merthyr Tudful er mwyn ceisio achub ei fywyd.

Fe gafodd y barnwr ei berswadio fod Dic yn ddieuog, ond gwrthododd y Gweinidog Cartref â newid y ddedfryd.

Geiriau Dic - gŵr priod 23 oed a thad i un plentyn - wrth fynd i'r grocbren oedd "Arglwydd, dyma gamwedd".

Wrth ddarllen o'r ddeiseb ddiweddaraf, dywedodd Ms Clwyd: "Mae 'na deimlad cryf yng Nghymru bod Richard Lewis - Dic Penderyn - wedi cael ei ddienyddio ar gam, a bod angen diddymu'r ddedfryd a rhoi pardwn.

"Mae'r deisebwyr felly yn gofyn bod y Tŷ'r Cyffredin yn erfyn ar y gweinidog cyfiawnder i roi pardwn i Richard Lewis - Dic Penderyn."