Cyn ddisgybl Ysgol Brynrefail yw cyflwynydd newydd Cyw

  • Cyhoeddwyd
Huw Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Owen yn gyn ddisgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Huw Owen o Lanberis fydd yn cyd-gyflwyno Cyw gyda'r gantores Catrin Herbert.

Fe fydd Huw yn ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf ar 11 Medi.

Cyw yw gwasanaeth plant S4C sy'n cael ei darlledu yn ddyddiol ar deledu ac ar-lein.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C "Rydym ni'n falch iawn o gael croesawu Huw fel cyflwynydd newydd Cyw ac mae'n edrych ymlaen at gael arwain plant i fyd hudol Cyw gyda Catrin."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Huw Owen yn cyd-gyflwyno gyda'r gantores Catrin Herbert

Mae Huw Owen, 19 oed, o Lanberis, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis ac Ysgol Brynrefail, Llanrug ac wedi mwynhau canu a pherfformio ers ei ddyddiau yn yr ysgol gynradd.

Yn ei amser sbâr, mae'n debyg ei fod yn mwynhau chwarae pêl-droed a chwarae'r gitâr.

"Dwi wedi mwynhau perfformio ers i mi allu cofio yn enwedig wrth i mi gymryd rhan mewn sioeau ysgol a sioeau'r Urdd. Mae symud lawr i Gaerdydd i ymuno a thîm Cyw yn gyfnod cyffrous iawn a dwi'n edrych ymlaen at gyflwyno'r rhaglenni yn ogystal â chymryd rhan mewn sioeau byw," meddai Huw.

Helen Davies, o gwmni cynhyrchu Boom Plant yw pennaeth gwasanaethau Cyw, dywedodd: "Ar ôl cyfnod prysur o chwilio am gyflwynydd i ymuno â'r tîm, mae'n bleser croesawu Huw atom ni. Mi fydd yn bartner perffaith i Catrin Herbert ac yn wyneb y bydd gwylwyr Cyw yn dod i'w 'nabod yn dda iawn."