Cymru i 'elwa' o ddatblygu Heathrow
- Cyhoeddwyd
Fe allai Cymru elwa o unrhyw ddatblygiad i faes awyr Heathrow os gall cysylltiadau uniongyrchol ddod a thwristiaid yma'n gynt, yn ôl dirprwy weinidog twristiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates.
Mae'r Comisiwn Meysydd Awyr wedi cefnogi trydedd llain lanio yn Heathrow, gan ddweud y byddai'n ychwanegu £147bn mewn twf economaidd a chreu 70,000 o swyddi erbyn 2050.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Mr Skates fod hyn yn ddewis gwell na datblygu maes awyr Gatwick gan fod Heathrow'n agosach i Gymru.
Ychwanegodd ei fod yn "awyddus iawn" i weld maes awyr Caerdydd yn datblygu.
"Denu ymwelwyr"
"Mae traffig awyr yn cynyddu," dywedodd Mr Skates wrth raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales ddydd Mercher.
"Os ydym yn mynd i ddenu cymaint o ymwelwyr, twristiaid a busnesau ag sy'n bosib ar yr ynys hon yna mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynnig pwyntiau mynediad i'r wlad hon.
"Dyna pam rwyf yn awyddus iawn fod maes awyr Caerdydd yn parhau i dyfu a derbyn cefnogaeth ac yn parhau i alluogi pobl i ddod i Gymru."
Wrth drafod datblygiad posib Heathrow, dywedodd: "Mae'n hanfodol ein bod yn cael cysylltiadau uniongyrchol llyfn o Heathrow i Gymru - fyddai'n cynnwys amseroedd siwrne cynt hefyd o'r maes awyr i Gymru."
Yn 2013, fe gafodd apêl i ymestyn safle maes awyr Caerdydd a meysydd awyr rhanbarthol eraill er mwyn lleihau'r pwysau ar faes awyr Heathrow ei wrthod gan Gomisiwn y Meysydd Awyr.