Cwymp pris cig oen yn 'argyfwng'

  • Cyhoeddwyd
DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae asiantaeth fwyd yn lansio ymgyrch i geisio atal "argyfwng" sy'n wynebu ffermwyr Cymru.

Yn ôl Hybu Cig Cymru (HCC) mae ffermwyr ŵyn yn cael rhwng £25 a £30 y pen yn llai nag yr oedden nhw y llynedd.

Mae'r asiantaeth yn lansio "cyfres o fesurau" i geisio mynd i'r afael â hynny ac i geisio marchnata cynnyrch Cymru yn well.

Mae HCC yn dweud bod cynnydd mewn allforion gan wledydd fel Seland Newydd a'r ffaith bod ffermwyr Prydain yn cynhyrchu mwy eleni wedi gwanwyn ffafriol yn gyfrifol am y sefyllfa.

'Datblygiad pryderus'

Yn ôl HCC, cynhyrchodd y DU fwy o gig oen rhwng Ionawr a Mawrth o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd tra bod nifer yr allforion wedi lleihau a nifer y mewnforion wedi cynyddu.

Cafodd 30,200 o dunelli o gig dafad ei fewnforio yn nhri mis cyntaf 2015, cynnydd o 12% ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd cynnydd hefyd o 24% yn allforion Seland Newydd i'r DU yn chwarter cyntaf 2015.

Dywedodd Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells: "Mae'r cwymp mewn prisiau yn ddatblygiad pryderus i'r diwydiant.

"Mae'n deillio o nifer o ffactorau gwahanol, sydd wedi cyfuno i greu'r storm berffaith i gynhyrchwyr."

Yn ogystal ag ymgyrch farchnata dywed HCC eu bod yn trafod gydag archfarchnadoedd i geisio sicrhau bod cig o Gymru ar gael mewn siopau bob tro.