Arian i weddnewid castell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
CastellFfynhonnell y llun, Mike Searle/Geograph

Bydd prosiect gwerth £780,000 i weddnewid cyflwyniad, dehongliad a chyfleusterau yng nghastell Caernarfon yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld hanes yr adeilad mewn ffyrdd newydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwelliannau'n cynnwys mynedfa newydd sydd wedi ei dylunio i groesawu ymwelwyr ac i barchu nodweddion hanesyddol y castell, a dehongliadau newydd ymhob rhan o'r safle.

Mae pedwar atyniad newydd wedi eu gosod yn safle'r castell, er mwyn addysgu ymwelwyr am hanes y safle:

  • Arddangosfa 'Gêm y Coronau' - sef bwrdd gwyddbwyll maint pobl, gyda cherfluniau o'r prif gymeriadau a oedd yn cystadlu i reoli Cymru o 1066 i 1282. Mae'r arddangosfa'n esbonio gwreiddiau tywysogion Cymru, o Golofn Eliseg i'r tywysogion diweddarach, yn ogystal â'r sedd a'r glustog ben-glin a ddefnyddiwyd yn yr arwisgiad yn 1969.

  • Arddangosfa 'Bywyd Eleanor o Gastîl' - sy'n dangos yr wyth cyfnod o fywyd gwraig Edward y Cyntaf drwy garwsel Fictorianaidd.

  • Arddangosfa 'Chwedlau' - sydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr edrych ar hanes Edward y Cyntaf a darganfod sut y cymerodd fythau a chwedlau Cymru i roi hawl iddo'i hun reoli Cymru.

  • Cyflwyniad clywedol newydd - sy'n dangos ffilm wyth munud am hanes Caernarfon. Crewyd y ffilm gan Ross Ashton, yr artist taflunio digidol blaenllaw.

Mae'r prosiect hefyd yn esbonio nodweddion arwyddocaol yn y castell, arwyddion newydd ar gyfer Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chreu llwybr gweithgareddau newydd er mwyn i deuluoedd allu crwydro drwy'r castell.

Mae'r gwaith yng nghastell Caernarfon wedi cael ei ariannu drwy Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw, sydd werth £19 miliwn ac sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhaglen adfywio

Mae'r gwelliannau i'r castell yn rhan o raglen adfywio ehangach sy'n ceisio defnyddio rhai o'r prif rannau sy'n dirywio ar lannau Caernarfon.

Sefydlwyd y rhaglen yn 2012, ac mae'n cael ei arwain gan bartneriaeth sy'n cynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, Antur Waunfawr, Galeri Cyf, GISDA, Cyngor Tref Caernarfon, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn un o'r arddangosfeydd newydd

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Bydd y gwelliannau i'r cyfleusterau yng nghastell Caernarfon yn cael effaith wirioneddol ar y profiad i'r ymwelwyr, ac rwy'n hynod falch o weld hanesion pwerus y lle pwysig hwn yn cael eu hadrodd mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

"Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a nodedig, ac felly mae twristiaeth treftadaeth yn gwneud cyfraniad mawr i economi'r dref. Mae Rhaglen Glannau Caernarfon yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol a chenedlaethol pwysig yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni amcan cyffredin o ran gwella a chynyddu'r hyn a gynigir fel twristiaeth treftadaeth, a hynny er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall treftadaeth eu cynnig i gryfhau ein heconomi."

'Lle eiconig'

Wrth groesawu'r buddsoddiad diweddar yng Nghastell Caernarfon, dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi: "Mae'r buddsoddiad hwn mewn lle mor eiconig - un o safleoedd treftadaeth y byd wrth gwrs, sydd o bwys yn lleol ac yn rhyngwladol - yn gymorth i wella'r profiad i ymwelwyr yng nghastell Caernarfon ac i wella'r dehongliad o'n treftadaeth gyfoethog, gan gynnwys stori'r Tywysogion Cymreig.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio'n agos gyda Cadw a phartneriaid eraill dros nifer o flynyddoedd i wella Caernarfon fel cyrchfan i dwristiaid ac mae eisoes yn datblygu cynigion cyffrous ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r prosiect hwn yn gam arall tuag at ein nod o adeiladu ar ein hasedau diwylliannol ac amgylcheddol unigryw er mwyn datblygu cyrchfannau o safon fyd-eang a fydd o fudd i gymunedau a busnesau lleol yn ogystal ag ymwelwyr i'r ardal."