Apêl am £70,000 i sicrhau dyfodol Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Cystadleuwyr yn Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod Llangollen yn denu cystadleuwyr o bob rhan o'r byd

Mae apêl fyd-eang wedi ei lansio i geisio sicrhau dyfodol arianol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Y gobaith ydi codi £70,000 gan fod yr eisteddfod yn rhagweld y bydd yn gwneud colled eleni, yn dilyn gwerthiant siomedig o docynnau.

Mae trefnwyr yr eisteddfod yn ffyddiog fod gan yr ŵyl ddyfodol hir-dymor disglair, ond maen nhw'n dweud bod angen arian yn y tymor byr i sicrhau'r digwyddiad am y tro.

'Toriadau dwfn'

Cafodd yr apêl am arian ei gyhoeddi gan gadeirydd yr eisteddfod, Gethin Davies. Dywedodd: "Mae'r eisteddfod yn ŵyl ddrud i'w chynnal, ac fel gwyliau eraill rydym wedi bod yn cerdded ar hyd llwybr cyfyng yn ariannol ers peth amser.

"Wrth wneud toriadau dwfn i'n gwariant ar gostau, fe wnaethon ni ychydig o arian yn 2014.

"Ond yn drist iawn, er fod y patrwm gafodd ei sefydlu wedi parhau i 2015, mae gwerthiant siomedig tocynnau ar gyfer cyngherddau'r eisteddfod eleni yn golygu ein bod yn edrych ar golled o tua £70,000 am 2015."

Ychwanegodd Mr Davies: "Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru o ran cymorth yn y tymor byr, ond hyd yn hyn nid ydynt yn gallu cynig sicrwydd o gymorth.

"Y cyngor oedd i wneud ymdrechion caled i godi arian gan ein cefnogwyr er mwyn ymateb i'r hyn sydd yn broblem tymor byr.

"Mae bwrdd yr eisteddfod wedi darparu cynllun busnes dros dair blynedd i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae'n hyderus y gallwn symud i wneud elw os allwn oroesi'n problemau presennol.

"Mae'r cyfarwyddwr cerdd wedi darparu rhaglen ddeniadol o gyngherddau ar gyfer 2016 - yn cynnwys un enw enwog - ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn denu torfeydd mwy, ac mae'r gyllideb ragarweiniol am 2016 yn dangos gwarged rhesymol."

Pen-blwydd

Y flwyddyn nesaf fe fydd yr eisteddfod yn dathlu ei phenblwydd yn 70 oed, ac mae wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau cerddorol mwyaf yn Ewrop ers cael ei sefydlu ar ddiwedd yr ail ryfel byd i hybu heddwch.

Yn y gorffenol mae artistiaid enwog fel Luciano Pavarotti wedi cystadlu yn Llangollen. Daeth yr Eidalwr i gystadlu yn y dref gyda chor ei dad o Modena yn 1955. Dychwelodd yn 1995 pan roedd yn ffigwr byd enwog.

Eleni mae disgwyl i gystadleuwyr deithio i Langollen o wledydd fel Ghana, China, Hwngari, India, Jamaica, Morocco, Nepal, Slofacia a'r Iseldiroedd, yn ogystal â Phrydain ag Iwerddon.

Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw'n ymweld â'r digwyddiad ar ddydd Mawrth yr eisteddfod eleni hefyd, gan gyfarfod gyda chystadleuwyr yn ystod Gorymdaith y Cenhedloedd.