Tryweryn Oes Fictoria

  • Cyhoeddwyd
Yr olygfa o Lyn Efyrnwy rydyn ni'n gyfarwydd â hi erbyn heddiw
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Lyn Efyrnwy rydyn ni'n gyfarwydd â hi erbyn heddiw

Dafliad carreg o faes yr Eisteddfod eleni mae Llyn Efyrnwy. Er bod yna olygfeydd bendigedig i'w gweld mae 'na hanes dadleuol tu ôl i greu'r gronfa ddŵr.

Angen dŵr ar Lerpwl

Cafodd y llyn ei greu oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o ddŵr wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.

Gan bod 'na ddŵr glân croyw i'w gael yn y canolbarth, ar 14 Gorffennaf 1881, gosododd Iarll Powys y garreg gyntaf yn yr argae fyddai'n boddi Cwm Efyrnwy.

Roedd dewis yr Iarll yn un naturiol gan mai ef oedd perchennog y rhan fwyaf o'r tir fyddai'n cael ei foddi, gan gynnwys darnau helaeth o bentref Llanwddyn, lleoliad y gronfa ddŵr newydd fyddai'n llyncu 1200 erw o dir.

Ffynhonnell y llun, Cynefin
Disgrifiad o’r llun,

Gallwch weld y pentref ar hen fap degwm o'r 1840au yng nghanol y llun. Mae'r map modern sydd drosto'n dangos lle mae'r dŵr heddiw (Trwy garedigrwydd Prosiect Cynefin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Pentref prysur

Ar y pryd, roedd gan bentref Llanwddyn eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel, tair tafarn, 37 o dai a 10 o ffermydd.

Does neb yn sicr faint o wrthwynebiad oedd yna i'r datblygiad ymhlith y bobl leol, ond o'r cychwyn, datgelodd Corfforaeth Lerpwl gynlluniau i godi pentref newydd islaw'r cwm.

Erbyn i'r gronfa ddŵr gael ei llenwi yn 1892, roedd y rhan fwyaf o'r trigolion wedi symud i'r pentref newydd heb lawer o ffws. Efallai bod rhai yn edrych ymlaen at gael cartrefi newydd sbon yn hytrach na gorfod erfyn ar ambell i berchennog i wella a thrwsio'r tai roedden nhw eisoes yn bwy ynddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Archifdy Powys Archives
Disgrifiad o’r llun,

Pentref Llanwddyn, gyda thafarn y Powis Arms a hen Eglwys St Johns yn y pellter (Llun: Archifdy Powys)

Llanwddyn a Capel Celyn

Yn 2005 awgrymodd yr hanesydd, Dr Owen Roberts o Brifysgol Aberystwyth, dolen allanol bod llawer llai o ffws wedi ei wneud o foddi Llanwddyn na boddi pentref Capel Celyn bron i 80 mlynedd yn ddiweddarach oherwydd bod gwleidyddiaeth y ddau gyfnod mor wahanol.

Doedd y mudiad cenedlaethol ddim wedi ei sefydlu a doedd gan nifer fawr o bobl tu hwnt i'r ardaloedd diwydiannol ddim profiad o drefnu ymgyrchoedd yn erbyn llywodraeth y dydd. Dywedodd y Dr Roberts:

"Symudwyd llawer mwy o bobl oddi yno nag yn achos Capel Celyn, felly fe allech chi ddadlau fod Capel Celyn wedi cael gormod o sylw."

Ffynhonnell y llun, Archifdy Powys Archives
Disgrifiad o’r llun,

Llanwddyn cyn sefydlu cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy (Llun: Archifdy Powys)

Chwalfa

Fel yng Nghapel Celyn, cafodd adeiladau eu chwalu. Cafodd y meirw eu datgladdu a'u rhoi i orffwys ym mynwent yr eglwys yn y pentref newydd.

Erbyn hyn, yr unig le mae'n bosib gweld unrhyw olion o'r pentref gwreiddiol yw mewn hen luniau ac ar hen fapiau, dolen allanol.

Doedd dim caneuon protest, doedd dim gorymdeithiau.

Mi ysgrifennodd Huw Jones y gan 'Dŵr' am foddi boddi Capel Celyn. Mae ei geiriau yr un mor addas i'r hyn ddigwyddodd yn Llanwddyn:

"Dyma lle llofruddiwyd enaid bro.

Gan ddŵr!"

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol