Ateb y Galw: Nia Roberts
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Nia Roberts sy'n cael ei holi gan Cymru Fyw yr wythnos yma ar ôl iddi hi gael ei henwebu gan Alwyn Humphreys yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae bod ar long fy Nhaid yn Southampton yn un o fy atgofion cynharaf. Yn blant, roedda ni'n meddwl ein bod yn hwylio rownd y byd (o amgylch yr Isle of Wight oedd y gwirionedd!)
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Donny Osmond a'i ddannedd disglair…"And they call it Puppy Love!"
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi dal i gochi wrth feddwl am sgwrs ges i flynyddoedd yn ôl efo Morgan Jones ar Radio Cymru. Roedd Morgan yn dewis ei hoff ganeuon. Fel hyn aeth y sgwrs…
Nia: Ymlaen â dy ddewis cerddorol di. Be gawn ni nesa' Morgan? Jump?
Morgan: Yyyy… ieee… iawn Nia!
("Jump" Van Halen oedd y dewis cerddorol)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mi gollais i ddeigryn yn Seremoni Cadeirio Eisteddfod Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ddoe pan gododd y bardd buddugol. Dwi'n fam i fardd!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi byth yn gallu cyrraedd llefydd yn gynnar. Sgrialu i bob man
Dy hoff ddinas?
Rhufain
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gwrando ar gerddoriaeth Eidalaidd mewn cegin yng Nghaerdydd amser maith yn ôl ac fe awgrymais i y byddai'n braf gwrando ar y gerddoriaeth yn Yr Eidal, felly mi aeth pawb i nôl pasbort, galw tacsi i Heathrow ac erbyn iddi wawrio, roeddan ni yn Rhufain.
Oes gen ti datŵ?
Dim tatŵ. Roedd gan Taid (Capten llong) un ac mi ddudodd wrtha'i beidio.
Beth yw dy hoff lyfr?
Gorfod darllen llwyth o lyfrau Cymraeg ar gyfer 'Stiwdio' a'r 'Silff Lyfrau.' Newydd orffen hunangofiant John Stevenson a' i fwynhau.
Ond os nad yda chi wedi darllen Llyfr y Flwyddyn, "Awst yn Anogia" gan Gareth F Williams, gwnewch!
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Siaced ledr
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
Maleficent
Dy hoff albwm?
Un o albums cynnar The Police. "Outlandos d'amour" efo tracs fel "So Lonely" "Can't Stand Losing You' a "Roxanne"
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Langoustines. Saltimbocca alla Romana a Crème Catalane.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Mae'n well gen i siarad!
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Catrin Finch